Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bydd busnesau yng Nghymru sy'n dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf a mis Awst 2021 busnesau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau ac sy'n parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau.

Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi y mae’r cyfyngiadau yn dal i effeithio’n ddifrifol arnynt, megis asiantau teithio, atyniadau y mae’r mesurau cadw pellter wedi cyfyngu arnynt a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol, hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru.

“Rydym wedi darparu dros £2.5biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi'i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Rydym hefyd wedi ymestyn ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae'r dull hwn sydd wedi'i dargedu, sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymru, wedi helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi'u colli fel arall.

"Er mwyn cefnogi busnesau ymhellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi cymorth ychwanegol i helpu i dalu costau'r busnesau hynny yng Nghymru y mae angen iddynt aros ar gau, neu sy’n dal i ddioddef yn sgil y newid graddol yng Nghymru i Lefel Rhybudd Un, a oedd yn angenrheidiol oherwydd y risgiau a achosir gan yr amrywiolyn Delta.

"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i gefnogi busnesau Cymru yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn."

Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau, i gynnwys cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst.

I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i fusnesau ddangos bod eu trosiant wedi gostwng mwy na 60% o gymharu â'r llinell amser gyfatebol yn 2019 neu gyfwerth. Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y cyllid. 

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru ar 5 Gorffennaf, a fydd yn caniatáu i fusnesau wirio eu bod yn gymwys i gael y cymorth a faint o gymorth y maent yn gymwys i wneud cais amdano. Bydd hyn yn eu helpu i ddechrau paratoi eu ceisiadau.

Bydd y gronfa'n agor i geisiadau o ddydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021, a bydd yn parhau ar agor am gyfnod o 2 wythnos, gan gau ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld mai hwn fydd y pecyn terfynol o gymorth brys i'r busnesau hynny sy'n gallu masnachu, yn seiliedig ar lefel bresennol cyfyngiadau Covid. Os bydd angen cyfyngiadau newydd mewn ymateb i amrywiolyn newydd neu ddatblygiadau eraill sy'n dod i'r amlwg, bydd Gweinidogion yn adolygu'r angen am gymorth ychwanegol.

Ar ôl y cyfnod argyfwng, pe bai'r sefyllfa'n caniatáu, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu darparu Cronfa Datblygu Busnes ac Adfer, a gynlluniwyd i gefnogi busnesau gydag arian cyfatebol i ail-lansio, datblygu a thyfu yn dilyn y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau Covid ymhellach. Bydd hyn yn cyd-fynd yn llwyr â'r blaenoriaethau a nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.