Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru mewn ymateb i’r Ystadegau diweddaraf ar y Farchnad Lafur:

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

“Mae ffigurau heddiw yn dangos effaith y coronafeirws ar ein heconomi. Rydym yn gwybod bod nifer o bobl yn parhau i wynebu pwysau ac ansicrwydd.

“Er mwyn cynnig rhagor o gefnogaeth i fusnesau Cymru o safbwynt wynebu effeithiau economaidd y pandemig a’r ffaith bod y cyfnod pontio cyn ymadael â’r UE ar fin dod i ben cyhoeddais yn ddiweddar gam nesaf ein Cronfa Cadernid Economaidd sydd werth £140 miliwn.

“Bydd y cyllid hwn yn allweddol er mwyn cefnogi cwmnïau i gynllunio ar gyfer economi’r dyfodol a chefnogi’r bobl y mae cyfyngiadau lleol yn effeithio arnynt. Mae £20 miliwn yn cael ei glustnodi ar gyfer cefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch. Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd eisoes wedi diogelu dros 100,000 o swyddi yng Nghymru a allai fod wedi’u colli a bydd y cam nesaf hwn yn allweddol wrth helpu i ddiogelu llawer iawn mwy o swyddi eraill.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth posibl er mwyn cefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau yn ystod cyfnod mor eithriadol o anodd a heriol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad gwerth £40 miliwn fel rhan o’n Hymrwymiad COVID er mwyn cefnogi pobl i ganfod gwaith, addysg neu hyfforddiant neu i gychwyn busnes.