Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, ei bod yn neilltuo £3.4m i gynnal gwelliannau yn nhri Pharc Cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal amrywiaeth eang o brosiectau yn nhirweddau dynodedig Cymru, i wella mynediad at dir agored, hybu cadwraeth ac i adfywio rhai o'n hardaloedd mwyaf bregus. 

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r Gweinidog ymrwymo yn gynharach yn y mis i warchod tirweddau dynodedig Cymru a chefnogi'u nod o ddiogelu a gwella'u harddwch naturiol. 

Meddai Hannah Blythyn: 

"Fe wnes i ailddatgan fy ymrwymiad i'r tirweddau dynodedig mewn datganiad yn y Senedd ar ddechrau'r mis. Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach o'n hymrwymiad i'n Parciau Cenedlaethol ac AHNE. 

"Bydd yr arian yn helpu'r tirweddau dynodedig i barhau i ddarparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau byrlymus a chryf a chyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru fwynhau'r awyr agored. 

Ymhlith y gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud fydd darparu mannau gwefru ceir electronig i gynyddu teithiau cynaliadwy a gwella'r cyfleusterau ailgylchu fel bod pobl yn taflu llai o sbwriel yn y Parciau Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn hwyluso mynediad i bobl ag anableddau a phroblemau symud eraill yn yr holl dirweddau dynodedig. 

Dywedodd hefyd: 

"Bydd yr arian yn ein helpu i gynnal prosiectau fydd yn gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr a hefyd i ddiogelu'r amgylchedd yn y tymor hir. Bydd prosiectau i adfer mawnogydd a diogelu cynefinoedd rhag cael eu colli yn ein helpu i daclo'n problemau amgylcheddol mwyaf a chreu ecosystemau amrywiol a chryf yn ein tirweddau dynodedig. 

"Mae miliynau o bobl yn ymweld â'n tirweddau dynodedig bob blwyddyn, felly mae'n hanfodol ein bod yn dal i roi'r profiadau gorau iddyn nhw er mwyn eu hannog i ddychwelyd dro ar ôl tro. Rwy'n disgwyl ymlaen at ailymweld â'n Parciau Cenedlaethol a'r AHNE i weld y prosiectau ar waith."