Awydd Llywodraeth Cymru i arwain y gwaith o fynd i’r afael â llygredd aer trwy gyhoeddi pedwar mesur i geisio gwella ansawdd yr aer yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Cynulliad ei bod yn mynd ati i gyflwyno rhaglen waith draws-lywodraethol uchelgeisiol. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi Cynllun Aer Glân i Gymru yn 2018 a fydd yn cynnwys:
- Fframwaith Parth Aer Glân i sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cyflwyno Parthau Aer Glân mewn ffordd gyson ac effeithiol lle bynnag y bydd eu hangen. Bydd y fframwaith yn sicrhau bod busnesau a’r cyhoedd yn deall union natur parthau a sut y byddant yn effeithio arnynt,
- gwella sut mae Awdurdodau Lleol yn rhoi gwybod am broblemau ansawdd aer yn eu hardaloedd, a’u cynlluniau i’w datrys,
- sefydlu Canolfan Asesu a Monitro Ansawdd Aer Genedlaethol i Gymru er mwyn hysbysu llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog am raddfa ansawdd aer gwael ac effeithiolrwydd camau gweithredu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gydymffurfio â therfynau cyfreithiol mewn ardaloedd penodol ac ar leihau cysylltiad â llygredd yn ehangach,
- ail-lansio gwefan Ansawdd Aer Cymru Llywodraeth Cymru er mwyn gwella rhagolygon ansawdd aer, gydag adrannau newydd ar gyfer ysgolion a chyngor iechyd.
Meddai Hannah Blythyn:
Gwnaeth y Gweinidog hefyd alw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i gael gwared yn raddol â cheir petrol a diesel newydd erbyn 2040 trwy gyflwyno cerrig milltir pendant i’w cyflawni cyn y dyddiad hwnnw:“Mae ansawdd yr aer yng Nghymru yn llawer glanach nag yn y degawdau diwethaf. Serch hynny, mae’n rhaid i ni roi rhagor o gamau gweithredu ar waith yn syth oherwydd bod ein dealltwriaeth o effeithiau llygredd aer ar iechyd wedi gwella’n sylweddol. Dyma’r perygl mwyaf i iechyd y cyhoedd o hyd.
“Yn aml, mae ansawdd aer gwael yn cael ei ystyried yn fater amgylcheddol yn unig, ond rhaid cofio ei fod yn cael effaith fawr ar adnoddau naturiol a’r economi hefyd. Mae’n rhaid i ni wneud popeth posibl i fynd i’r afael ag ansawdd aer gwael.
“Mae’r camau rwyf wedi’u cyflwyno heddiw yn dangos ein bod yn benderfynol bod Cymru yn arwain y broses o fynd i’r afael â llygredd aer, gan sicrhau aer glân i bawb”.
“Mae’r cam hwn yn un angenrheidiol a chadarnhaol, ond mae 2040 yn bell i ffwrdd. Felly, gofynnaf am gefnogaeth Aelodau’r Cynulliad wrth alw ar Lywodraeth y DU i gydweithio’n agos â ni i ddatblygu amserlenni clir tuag at bontio cynyddol i drafnidiaeth ffordd allyriadau sero”.