Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hannah Blythyn wedi rhoi hwb mawr i drigolion a busnesau Llanelwy ar ôl cyflwyno'n swyddogol gynllun, sydd werth £6 miliwn, i atal llifogydd yn y ddinas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 27 Tachwedd 2012, gorlifodd Afon Elwy dros yr amddiffynfeydd a fodolai ar y pryd, gan effeithio ar 320 o adeiladau ac arwain at farwolaeth Mrs Margaret Hughes, a oedd yn byw mewn cartref ymddeol ger Stryd y Felin.

Ar ôl y llifogydd, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru astudiaeth ddwys i edrych yn llwyr ar y perygl o lifogydd ac i lunio cynlluniau i leihau'r perygl hwn. 

Bydd y cynllun newydd i atal llifogydd yn golygu y bydd llai o berygl i Afon Elwy orlifo a pheryglu 293 o gartrefi a 121 o fusnesau, gan gynnwys ysgolion, cartrefi ymddeol, llety gwarchod, y llyfrgell leol, meddygfa a gorsaf dân. Bydd y cynllun yn amddiffyn Llanelwy rhag digwyddiad a fyddai'r un mor wael â'r llifogydd yn 2012. 

Bydd y manteision o ran seilwaith a hamdden yn cynnwys llwybrau troed newydd ac ehangach, gwelliannau i bont hynafol y ddinas a gosod trosglwyddydd Bluetooth "i beacon". 

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gosod blychau ar gyfer adar ac ystlumod, a phlannu coed a pherthi yn lle'r rhai blaenorol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn plannu mwy o goed na'r rheini y cafwyd gwared arnynt i weithredu'r cynllun.

Ar ôl cyflwyno'r cynllun newydd yn swyddogol a datguddio plac, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:

"Rydyn ni i gyd yn cofio'r llifogydd difrifol yma yn 2012, felly mae hwn yn gynllun pwysig i Lanelwy. Mae'r digwyddiadau hynny yn ein hatgoffa am y bygythiad go iawn sy'n ein hwynebu ac mae hynny'n debygol o waethygu wrth i'n hinsawdd newid.

"Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a'i gontractwyr am ddarparu'r cynllun pwysig hwn sy'n lleihau'r perygl o lifogydd i 414 o eiddo, gan gynnwys 293 o dai. 

"Mae'r cynllun yn cael cymorth gwerth £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Yn gynharach eleni, cyhoeddais raglen gwerth £56 miliwn i gryfhau amddiffynfeydd arfordirol ac amddiffynfeydd llifogydd, gan wella cydnerthedd cymunedau ledled y wlad sy'n wynebu peryglon tebyg".

Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Gogledd:  
"Bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Llanelwy sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd ym mis Tachwedd 2012 ac sydd wedi byw dan y bygythiad hwn am sawl blwyddyn.
 "Er nad ydym bob amser yn gallu atal llifogydd, rydym wedi llunio cynllun cadarn ar gyfer Llanelwy a fydd yn lleihau’r perygl yn sylweddol ac yn rhoi tawelwch meddwl yn yr hirdymor i drigolion y ddinas. 
"Ar ben hynny, mae'r gwelliannau amgylcheddol a'r cyfleoedd hamdden newydd sy'n deillio o'r cynllun yn hybu bywyd beunyddiol pawb yn y ddinas hefyd".