Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dr Beynon's Bug Farm, atyniad i ymwelwyr a chanolfan ymchwil, wedi sefydlu a chydlynu y prosiect arweiniodd at roi statws Caru Gwenyn i Dyddewi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad â Thyddewi, dywedodd y Gweinidog bod y fenter Caru Gwenyn o fudd nid yn unig i'r amgylchedd ond i drigolion lleol a busnesau hefyd.

Ychwanegodd mai bwriad y prosiect, sef y cynllun cenedlaethol cyntaf o'i fath mae'n debyg, yw gwneud Cymru yn wlad sy'n caru pryfed peillio.

Mae Dr Beynon's Bug Farm, atyniad i ymwelwyr a chanolfan ymchwil, wedi sefydlu a chydlynu y prosiect arweiniodd at roi statws Caru Gwenyn i Dyddewi. 

Mae'r cynllun Caru Gwenyn yn gweithio drwy annog ysgolion, busnesau a chymunedau i helpu i fynd i'r afael â'r gostyngiad mewn pryfed peillio. Gallant wneud hyn drwy ddarparu bwyd a chynefin i bryfed peillio, gan osgoi defnyddio plaladdwyr a hyrwyddo y camau sy'n helpu peillwyr.

Un o brif rannau'r prosiect yw Llwybr Pryfed Peillio Tyddewi.

Mae'r prosiect arloesol, ddechreuwyd gan Dr Beynon's Bug Farm, a'i gefnogi gan y Gronfa Arloesi y Cynnyrch Twristiaeth a Biodiversity Solutions, yn llwybr rhyngweithiol sy'n cysylltu safleoedd twristiaeth ledled ardal Tyddewi. 

Mae'r llwybr addysgol yn cysylltu celf, gwyddoniaeth a chadwraeth, gan obeithio i ysbrydoli ymwelwyr i gyfrannu gartref hefyd.

Mae nifer o breswylwyr lleol, busnesau, safleoedd treftadaeth, Cyngor Dinas Tyddewi ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi croesawu'r statws caru gwenyn ac wedi ymrwymo i gefnogi'r prosiect.

Dywedodd Hannah Blythyn: 

"Dwi wedi mwynhau pob munud o'm hymweliad â Llwybr Pryfed Peillio Tyddewi ac mae cynnwrf yma ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud.

"Mae'r cynllun hwn wedi cael effaith enfawr ar yr ardal leol ac wedi'i groesawu'n gyffredinol gan fusnesau a phreswylwyr fel ei gilydd. Mae prosiectau fel y rhain yn dangos faint yr ydym yn boeni am yr amgylchedd yng Nghymru a sut y mae agweddau newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd yr ydym yn trin yr hyn sydd o'n cwmpas.

"Mae Cymru yn arwain y ffordd wrth godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y pryfed peillio hyn a'n swyddogaeth wrth eu gwarchod.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau arloesol a chroesawu'r gwaith pwysig hwn sy'n dangos bod Cymru yn wlad sy'n caru pryfed peillio."