Rhaid i’r diwydiant pysgota ddechrau paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE – dyna’r neges gan Lesley Griffiths.
O’r 29 o Fawrth 2019 ymlaen, os mai ‘dim cytundeb’ fydd y sefyllfa, bydd y rhan fwyaf o bysgod a chynhyrchion pysgod angen tystysgrif dal ar gyfer mewnforio ac allforio rhwng y DU a’r UE. Mae hyn yn berthnasol hefyd i bysgotwyr sy’n glanio pysgod yn uniongyrchol ym mhorthladdoedd yr UE.
Mae tystysgrifau dal yn profi bod pysgod wedi cael eu dal yn unol â’r mesurau cadwraeth a rheolaeth sydd wedi’u sefydlu. Mae’n ofynnol i bob gwlad nad yw’n rhan o’r UE gyflwyno tystysgrifau dal wrth fasnachu gyda’r UE.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau fel rhan o sioe deithiol Brexit a Physgodfeydd yn ystod yr wythnos sydd i ddod. Nod y digwyddiadau yw helpu’r diwydiant i baratoi ar gyfer Brexit, rhannu gwybodaeth a rhoi cefnogaeth o ran pa ddogfennau a thystysgrifau sydd eu hangen mewn byd ar ôl Brexit.
Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Rhaid i mi ddweud yn glir fy mod i’n credu mai’r canlyniad gorau i’r diwydiant pysgota yw cytundeb. Byddai dim cytundeb yn cael effaith ddinistriol ar y sector a rhaid ei osgoi’n ddi-os.
“Fodd bynnag, rhaid i ni gynllunio ymlaen ar gyfer pob sefyllfa a rhaid i’n pysgotwyr ni fod yn barod am Brexit heb gytundeb. Dyma pam mae’n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r prosesau y mae angen iddyn nhw eu rhoi ar waith er mwyn gallu pontio’n llyfn i fod yn gwneud busnes y tu allan i’r UE.
“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r sector i baratoi ar gyfer Brexit a’i heriau. Bydd digwyddiadau ein sioe deithiol yn helpu’r diwydiant pysgota i wybod beth sydd raid iddo ei wneud i baratoi a’i helpu i fod mewn sefyllfa i addasu i’r marchnadoedd sy’n newid. Rydw i’n annog yr holl bysgotwyr i ddod i’r sioe deithiol a chael gwybod mwy.”
Mae system TG newydd i brosesu a chyhoeddi tystysgrifau dal allforio, a dogfennau ategol eraill, yn cael ei datblygu i helpu i wneud y broses yn fwy effeithlon. Bydd allforwyr yn derbyn cyfarwyddiadau llawn ar sut i gofrestru a defnyddio’r system newydd cyn i’r DU adael yr UE. Bydd tystysgrifau dal mewnforio’n parhau i gael eu prosesu drwy’r system bapur bresennol.
Yn ychwanegol at y dogfennau sy’n ofynnol o dan reoliadau’r IUU, bydd rhaid i fewnforwyr ac allforwyr pysgod ddilyn camau ychwanegol hefyd er mwyn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a thollau, os byddwn yn gadael yr UE ‘heb gytundeb’.
Gall pysgotwyr a busnesau pysgota gael y cyngor diweddaraf am Adael yr UE yn GOV.UK
I hysbysu pysgotwyr o'r prosesau newydd a mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ym mis Ionawr. Mae'r dyddiadau a'r lleoliadau isod.
Ionawr 16 – Caernarfon, Gwesty Celtic Royal, LL55 1AY
Ionawr17 – Caergybi, tafarn Standing Stones, LL65 2UQ
Ionawr 22 – Aberdaugleddau, Pembrokeshire Yacht Club, SA73 3RS.
Ionawr 23 – Cei Newydd, Gwesty Black Lion, SA45 9PT.
Ionawr 24 – Abermaw, Clwb Hwylio Merioneth Yacht Club, LL42 1HB.
Ionawr 30 – Saundersfoot, Clwb Hwylio Saundersfoot, SA69 9HE.
Ionawr 31 – Porth Tywyn, Clwb Hwylio Porth Tywyn, SA16 0ER.