Bydd cerddwyr yn y Gogledd yn gallu mwynhau mwy o ardaloedd yn yr awyr agored ar ôl i Weinidog yr Amgylchedd agor rhan newydd o Lwybr Arfordir Cymru.
Roedd Hannah Blythyn ym Mostyn yn agor llwybr newydd ger Warwick Chemicals, llwybr 300 metr o hyd. Crëwyd y prosiect, sy’n wyriad o Lwybr Arfordir Cymru, i dynnu pont droed reilffordd oddi ar y llwybr, a oedd yn cyfyngu ar hygyrchedd yr ardal.
Bydd y gwyriad yn caniatáu i fwy o waith a gwelliannau gael eu gwneud o ran pa mor hygyrch yw ardaloedd ar hyd y darn hwn o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r llwybr newydd yn mynd trwy goetir, sy’n rhoi cipolwg hyfryd ar yr arfordir ac yn mynd â cherddwyr yn agosach at afon Dyfrdwy. Oherwydd y llwybr hwn, nid oes rhaid cerdded ar ran o ffordd mwyach.
Dywedodd Hannah Blythyn:
“Mae’n bleser gen i ddod i agor y rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru yn swyddogol. Yn 2012, nodwyd llwybr o gwmpas ein harfordir. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr fel hyn.
“Mae’r prosiect hwn wedi parhau â’r arfer o weithio mewn partneriaeth. Mae hynny wedi bod yn greiddiol i ddatblygiad y llwybr hwn sydd bellach yn eicon Cymreig.
“Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol, ac mae mwy a mwy o bobl yn gallu dod i fwynhau rhan arall o’n harfordir a’n coetiroedd gwych ni”.
Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Gogledd:
“Mae gweld y gwelliannau newydd i Lwybr Arfordir Cymru, sy’n cyfrannu llawer at fywyd Cymru, yn beth gwych.
“Mae’r llwybr yn hybu ein heconomi twristiaeth, yn gwella iechyd a lles pobl drwy eu hannog i gerdded ac yn cysylltu pobl â’r byd natur sydd i’w weld ar hyd yr arfordir.
“Roedd £84 miliwn wedi cael ei wario gan gerddwyr ar arfordir Cymru yn 2014, a chefnogi 1,000 o swyddi yn sgil hynny. Ar ben hynny, roedd 43 miliwn o ymweliadau undydd â’r arfordir yn cynnwys cerdded fel gweithgaredd. Mae’r dystiolaeth yn siarad drosti’i hun am werth y llwybr hwn sydd o gwmpas ein harfordir.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint sydd â chyfrifoldeb am Gefn Gwlad:
“Cyflwynodd ein tîm cefn gwlad y syniad o greu llwybr troed i Warwick Chemicals. Roedd Warwick Chemicals yn gwbl gefnogol i’r cynlluniau ac felly roedden ni’n gallu sicrhau cyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Datblygwyd a chwblhawyd y prosiect gan ein parcmon arfordirol, Tim Johnson.
“Roedd yn dalcen caled ar y dechrau ond mae’r canlyniadau’n ffantastig. Mae Warwick Chemicals wedi bod yn wych. Roeddent yn gefnogol i’r syniad ac i’r prosiect o’r cychwyn cyntaf. Cyn gynted ag y dechreuodd y gwaith roedd popeth wedi disgyn i’w le yn daclus. Roedd sgiliau a gweledigaeth y contractwr Arwyn Parry yn help mawr.”