Bu Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio yn ymweld â Swyddfa Cyngor ar Bopeth yn Abertawe i glywed am effaith debygol gweithredu’r Gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn ar drigolion yr ardal.
Bu’r Gweinidog yn siarad â staff sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor gwerthfawr i bobl ar draws ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Roedd yn gobeithio dysgu am rai o’r pryderon a godwyd.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Y llynedd, fe roddodd Swyddfeydd Cyngor ar Bopeth gyngor a gwybodaeth i fwy na 18,000 o bobl. Yn ôl yr hyn rwy’n ei glywed, roedd y rhan fwyaf o’r ymholiadau’n ymwneud â phobl oedd yn cael trafferthion gyda budd-daliadau lles.
“Mae llawer o bobl fregus yng Nghymru, sy’n wynebu heriau o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU i’r system les, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae hyn wedi effeithio’n arbennig ar bobl sydd yn ennill cyflog bychan, teuluoedd sydd ar incwm isel a’r rhai tlotaf mewn cymdeithas.
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Swyddfa Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn caniatáu i'r tîm gwych yma ddal ati i helpu pobl i ddatrys problemau gyda budd-daliadau lles, ac i wneud y mwyaf o incwm yr aelwyd.
“Mae'r gwaith hwn sy'n cael ei wneud ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn gwneud gwahaniaeth mawr i lawer o bobl.
“Er hynny, rwy’n poeni’n arw am ddiffygion sylfaenol a chymhlethdod Credyd Cynhwysol. Rwy’ wedi fy siomi bod Llywodraeth y DU yn dal ati i roi'r cynllun ar waith, er gwaethaf y galwadau cyson sy’n cael eu gwneud iddynt stopio a mynd i'r afael â'r problemau.
“Mae rhai o’r rheini sy’n hawlio yn aros chwe wythnos a mwy am eu taliad cyntaf. Rwy’n gofyn am sicrwydd gan Weinidog y DU dros Gyflogaeth, Damian Hinds AS, y bydd y bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, gan gynnwys trigolion Abertawe, sydd bellach yn gorfod ei hawlio, yn cael cefnogaeth ariannol dros gyfnod y Nadolig.
“Ateb yr Adran Gwaith a Phensiynau i’r oedi mewn taliadau yw rhoi blaenswm o ddyfarniad dangosol y sawl sy’n hawlio. Nid yw hwn yn ateb ymarferol i bobl sy’n ceisio dod â deupen llinyn ynghyd. Gallai’r benthyciad ychwanegu at ddyledion ac ôl-ddyledion rhent.”