Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £6.6 miliwn o gyllid refeniw o'r Gronfa Gofal Integredig i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gorllewin yn 2018-19

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuodd y Gweinidog ar ei ymweliad â'r sir drwy fynd i Ganolfan Hamdden Aberdaugleddau i weld sut mae'r caffi menter cymdeithasol yn creu cyfleoedd sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith. Cafodd y prosiect £100,000 o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. 

Hefyd clywodd y Gweinidog hanes nifer o brosiectau eraill yn Sir Benfro, sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r gronfa, gan gynnwys: 

  • Community Connectors - Prosiect y trydydd sector, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r gymuned er mwyn helpu pobl i gynnal bywyd o ansawdd da mewn lleoliad cymunedol cefnogol. Cafodd y prosiect hwn £30,000 o'r Gronfa.
  • Banc Amser Sir Benfro - prosiect peilot i ymchwilio i'r posibiliadau o weithredu system bancio amser gymunedol fel gwasanaeth ataliol sy'n annog y rheini sy'n cymryd rhan i ddatblygu (neu ailddatblygu) eu cysylltiadau cymunedol. Cafodd y prosiect  hwn £11,000 o'r Gronfa ar gyfer 2018/19. 
  • Prosiect Bus Buddies - prosiect sy'n darparu gwirfoddolwyr i helpu pobl y mae angen cymorth arnynt i ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol. Cafodd y prosiect hwn £5,000 o'r Gronfa.

Wedyn, aeth y Gweinidog ymlaen i gwrdd â'r Tîm Gofal yn y Cartref, sydd wedi ei leoli yn Ysbyty De Penfro. Mae'r tîm hwn wedi bod yn weithredol ers mis Ionawr 2017, ac mae wedi gofalu am dros 300 o gleifion yn y gymuned leol a'u helpu i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu cartrefi. Cafodd y prosiect hwn £200,000 o'r Gronfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £6.6 miliwn o gyllid refeniw o'r Gronfa Gofal Integredig i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gorllewin yn 2018-19 er mwyn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau gofal integredig arloesol. At ei gilydd, mae £50 miliwn wedi ei ddarparu ar draws Cymru. 

Wrth siarad ar ôl ei ymweliad, dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Roedd yn bleser ymweld â Sir Benfro i weld drosof fy hun y gwahaniaeth ymarferol a chadarnhaol y mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fywydau llawer iawn o bobl ledled y sir. Dyma'r math o wasanaethau di-dor, sy'n tynnu ynghyd wasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector gwerth cymdeithasol, ac sy'n cael eu hannog yn ein cynllun Cymru Iachach, sef ein cynllun tymor hir ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  

“Mae'r unigolion ysbrydoledig y cwrddais i â nhw yn y caffi yn Aberdaugleddau yn gwneud gwaith gwych drwy helpu pobl ag anableddau dysgu i ennill profiad sy'n rhoi'r cyfle iddyn nhw gamu ymlaen i gael gwaith lle maen nhw'n gallu ennill cyflog. Cwrddais i hefyd â'r Tîm Gofal yn y Cartref, sy'n helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i fyw yn eu cartrefi, ac roedd yn braf gweld yr holl staff ymroddgar yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cynifer o bobl yn ein cymunedau.”