Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun atal llifogydd fydd yn diogelu pobl a busnesau yn Llanberis, Gwynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo grant o £1.3miliwn ar ei gyfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, ei bod yn neilltuo'r arian yn ystod ymweliad â'r ardal i weld y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i 96 o adeiladau yn yr ardal. 

Bydd yr arian yn cael ei roi i Gyngor Gwynedd trwy gynllun grant rheoli perygl llifogydd Llywodraeth Cymru i helpu â'r gost o adeiladu cynllun lleihau llifogydd yn Llanberis. 

Daw ar ôl blynyddoedd o lifogydd yn yr ardal. Mae mwy o law na'r cyfartaledd yn cwympo yn Llanberis ac mae'r llif mawr o ddŵr sy'n llifo oddi ar y llethrau serth o gwmpas yn golygu y gall llifogydd daro'r pentre'n gyflym. 

Gwnaeth y rhan fwyaf o adeiladau'r stryd fawr ddioddef yn ystod llifogydd 2012 ac yn ôl hanesion y gorffennol, mae llifogydd wedi taro llawer o adeiladau preswyl a masnachol. 

Bydd y gwaith yn cynnwys: 

• ailadeiladu'r bont er mwyn hwyluso'r llif 

• dymchwel y gored 

• cynyddu uchder y waliau atal llifogydd i lawr yr afon.  

Bydd y gwaith yn lleihau'r perygl o lifogydd i 96 o adeiladau, gan gynnwys 57 o gartrefi, a ffordd fawr. 

Bydd busnesau yn y pentref, gan gynnwys y ffatri Siemens leol, sy'n gyflogwr mawr yn yr ardal, hefyd yn elwa o weld y perygl o lifogydd yn lleihau. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo grant o 85% o gost adeiladu cynllun atal llifogydd Llanberis, gan roi grant o £1,382,177. Cyngor Gwynedd fydd yn talu am weddill cost y cynllun £1,626,091 hwn. 

Yn ystod ei hymweliad â Llanberis i weld y gwaith ddydd Iau, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu Awdurdodau Lleol â chost darparu cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. 

"Rydyn ni'n gwybod bod llifogydd yn gallu cael effaith economaidd, corfforol a meddyliol ofnadwy. Rydyn ni felly'n ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn cynlluniau rheoli llifogydd ledled Cymru er lles cartrefi a busnesau. 

"Ar ôl y problemau a achoswyd yn 2012 gan y llifogydd mawr diwethaf i daro'r ardal, mae'n bleser gen i gyhoeddi grant o £1.3m ar gyfer y cynllun fydd yn diogelu'r ardal rhag difrod o'r fath yn y dyfodol." 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd dros Berygl Llifogydd:   

"Mae peirianwyr Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar achos busnes manwl i sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ateb tymor hir fydd yn golygu codi pont newydd yn lle'r bont fwa bresennol (Pont Ddol) a chynyddu uchder y wal ar hyd Afon Goch. 

"Rydyn ni'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Llanberis yn ei rhaglen gyfalaf ar gyfer 2018.  Mae'r gwaith newydd ddechrau ar y bont newydd a disgwylir i'r holl waith gael ei wneud erbyn diwedd haf nesaf. Rydyn ni'n ddiolchgar i'r gymuned am ei hamynedd wrth inni adeiladu'r cynllun hanfodol hwn i ddiogelu'r pentref."