Neidio i'r prif gynnwy

Roedd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn Rhuthun i ymweld â'r cwmni peirianneg sifil Jones Bros Civil Engineering UK, i gyfarfod â rhai o'i brentisiaid peirianneg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yr ymweliad yn rhan o Wythnos Prentisiaethau 2019 − wythnos i ddathlu'r effeithiau cadarnhaol y mae prentisiaethau'n eu cael ar unigolion ac ar fusnesau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o unigolion, busnesau a sectorau drwy ei Chynllun Prentisiaethau ac mae wedi ymrwymo i greu 100,000 o gyfleoedd i fanteisio ar brentisiaeth yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Roedd yn bleser cael ymweld â Jones Bros, cwmni peirianneg sifil teuluol sy'n cyflogi rhyw 350 o bobl yma yn Rhuthun, ac sy'n gyfrifol am rai o'n cynlluniau seilwaith pwysig yn y Gogledd, gan gynnwys Ffordd Gyswllt Llangefni.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Jones Bros wedi recriwtio a hyfforddi 34 o brentisiaid y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae pob un ohonyn nhw'n cael ei gyflogi gan y cwmni o'r diwrnod cyntaf un ac yn elwa ar yr hyfforddiant uchel ei ansawdd sy'n cael ei ddarparu yn ei gyfleusterau hyfforddi priodol.

Bydd cael gafael ar weithlu medrus, a'i gadw, yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd ar ôl Brexit. Mae ymchwil wedi profi dro ar ôl tro mai ansawdd y bobl sy'n gweithio i unrhyw fusnes sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu, felly mae gwella sgiliau'r gweithlu yn fuddsoddiad yn y dyfodol.

Gall prentisiaethau gynnig llwybr perffaith i mewn i fyd gwaith ac maen nhw'n caniatáu i fusnesau ddod o hyd i staff, ac i'w meithrin a'u datblygu. Maen nhw'n helpu hefyd i sicrhau bod ein heconomi'n cael ei chynnal gan weithlu sy'n gallu mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu heddiw ac sy'n barod ar gyfer y cyfleoedd a ddaw i'n rhan yn y dyfodol − ac wrth inni fynd ati i baratoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE, bydd hyn yn bwysicach nag erioed.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld Cymru yn arwain y ffordd. Ddwy flynedd ar ôl inni wneud yr ymrwymiad uchelgeisiol i ddarparu 100,000 o brentisiaethau yma yng Nghymru erbyn 2021, rydyn ni eisoes yn gweld prentisiaethau ym mhob sector yn gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi. Ac mae'r economi a'r gweithlu'n tyfu.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru nag erioed, ac mae anweithgarwch economaidd yn is nag erioed. Dyma ffrwyth ein gwaith i sbarduno ffyniant ac i gryfhau'n heconomi, ac mae prentisiaethau'n chwarae rhan mor bwysig yn hynny o beth.”

Dywedodd Richard Owen, rheolwr hyfforddi gyda Jones Bros Civil Engineering UK:

“Mae Jones Bros yn un o'r cwmnïau sy'n arwain y ffordd ym maes prentisiaethau, ac rydyn ni wedi cael adborth anhygoel gan y bobl sy'n cymryd rhan yn ein rhaglenni prentisiaeth.

Yn ogystal â hyfforddi'r dysgwyr sut i wneud eu gwaith, mae'r rhaglenni hynny’n gyfle hefyd iddyn nhw feithrin sgiliau bywyd, ac yn sylfaen gadarn iawn ar gyfer symud 'mlaen yn eu gyrfaoedd.

Mae mwyafrif llethol ein prentisiaid wedi aros gyda'r cwmni ar ôl cwblhau eu prentisiaethau, ac mae rhai bellach wedi cofrestru ar gyfer ein cwrs prentisiaeth uwch er mwyn datblygu'u gyrfaoedd.

Roedden ni’n falch o gael y cyfle i ddangos yr effaith mae'n prentisiaid wedi'i chael − ac y byddan nhw'n parhau i'w chael − ar economi Cymru drwy ddatblygu sgiliau newydd wrth weithio ar brosiectau pwysig yn y rhanbarth fel Ffordd Osgoi Caernarfon a Bontnewydd.”