Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wedi ymweld â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ‒ y darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i gynnig y Brentisiaeth Uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Brentisiaeth Uwch yn cael ei hanelu at bobl sy’n gweithio yn y sector Gwyddor Bywyd. Ar hyn o bryd, mae dau o’r pedwar llwybr sydd ar gael yn cael eu cynnig yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.

Dyma nhw: 

  • Technegydd Gwyddor Bywyd ‒ Diploma NVQ Lefel 4 mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig 
  • Technegydd Gwyddor Bwyd ‒ Diploma NVQ Lefel 4 mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig 

Mae’r brentisiaeth yn cynnig cyfle hefyd i ennill statws Technegydd Gwyddoniaeth neu Dechnegydd Peirianneg Cofrestredig. 

Mae’r brentisiaeth yn gyfuniad o gymwysterau a phrofiad gwaith yn y diwydiant, ac mae’n fodd i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen ar brentisiaid i ddod yn gymwys yn y swydd y maent wedi’i dewis.

Diben y rhaglen Prentisiaethau Uwch yw paratoi pobl ar gyfer swyddi ym maes gwyddorau bywyd, gwyddoniaeth gemegol, gwyddor bwyd a datblygu prosesau. Bwriedir iddi hefyd roi cyfle i bobl sy’n cael eu cyflogi eisoes mewn labordai ac mewn meysydd gwyddonol a thechnegol symud yn eu blaenau a dysgu sgiliau newydd.     

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

“Gwyddoniaeth yw sylfaen twf economaidd. Mae’n bwysig ein bod yn cyflwyno prentisiaethau yn y maes hwn. 

“Mae cyflwyno Prentisiaethau Uwch yn cynnig amryw o gyfleoedd inni. Am y tro cyntaf, bydd gennym lwybr na fydd yn gwahaniaethu rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd. 

“Gan fod fframweithiau Prentisiaethau Uwch yn gallu cynnwys Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs), Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HNDs) a Graddau Sylfaen, bydd ffordd glir ymlaen rhwng Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ac Addysg Uwch, gan greu dewis arall yn lle’r llwybrau academaidd arferol.  

“Mae Prentisiaethau Uwch yn helpu i ddiwallu anghenion cyflogwyr ac maen nhw’n cynnig ffordd ymlaen i bobl uchelgeisiol sydd am ennill arian a dysgu ar yr un pryd. Maen nhw’n cynnig dewis arall mwy ymestynnol yn lle dilyn y llwybr llawnamser ‘traddodiadol’ ym maes Addysg Uwch. Mae cyflogwyr yn cynnig prentisiaethau fel dewis arall yn lle recriwtio graddedigion.

“Hoffwn i annog cyflogwyr i ymuno â’r llwybr cyffrous newydd hwn. Beth am ymuno â ni i sicrhau cenhedlaeth newydd o dechnegwyr fydd â’r sgiliau gwyddonol y mae ar gyflogwyr eu hangen?”   

Dywedodd Matthew Williams, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr:

“Yma yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni’n falch iawn o gael lansio’r rhaglen Prentisiaethau Uwch gyntaf yng Nghymru mewn Gwyddor Bywyd.

“Fel y gwelir yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer De-ddwyrain Cymru, mae Pen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau yn fagwrfa ar gyfer diwydiannau sy’n gysylltiedig â Gwyddor Bywyd. Bydd y Brentisiaeth Uwch hon yn fodd i sicrhau y bydd gan brentisiaid y sgiliau datblygedig y mae eu hangen ar gyflogwyr, a bydd yn eu galluogi i ddatblygu ac i ffynnu yn y diwydiant.

“Mae digon o amser o hyd i gyflogwyr ymuno â’r rhaglen hon, a fydd yn dechrau ym mis Ionawr, ac sy’n un o nifer o Brentisiaethau Uwch y mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn eu cynnig eleni.”