Ymwelodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ag Ynys Dewi ac Ynys Gwales heddiw oddi ar arfordir Sir Benfro i asesu graddfa ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) sy'n effeithio ar nythfeydd adar môr gwyllt ledled y DU.
Mae Ynys Dewi ac Ynys Gwales yn gartref i rai o nythfeydd huganod pwysicaf y byd, gyda gwylogod, adar drycin Manaw, llursod a hebogiaid tramor hefyd yn nythu ar eu glannau.
Mae'r ymweliad, a drefnwyd gan RSPB Cymru, yn dilyn adroddiadau o garcasau adar a gafodd eu golchi i fyny ar draethau Sir Benfro, ac amheuir bod HPAI ar yr adar hynny.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd RSPB Cymru fod Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd, Gwylanod a Phalod wedi eu canfod yn farw yn arnofio mewn dyfroedd o amgylch Ynysoedd y Moelrhoniaid a Rhosneigr, Ynys Môn yn y Gogledd.
Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ac yn cwrdd â rhanddeiliaid yn wythnosol drwy Grŵp Ymateb i Argyfwng Adar y Môr sy'n dod â nifer o asiantaethau ynghyd i gadw golwg ar y sefyllfa sy'n esblygu'n barhaus.
Mae adar y môr yn tueddu i fyw yn agos iawn at ei gilydd mewn nythfeydd trwchus ac mae ganddynt gyfradd ffrwythlonder isel, sy'n golygu eu bod yn tueddu i fagu dim ond un cyw y flwyddyn.
Gall Ffliw Adar ledaenu drwy disian, baw, merddwr ac adar ysglyfaethus neu garthysyddion sy’n achub ar y cyfle i hela carcasau halogedig.
Mae hyn yn caniatáu i Ffliw Adar ledaenu’n gyflym drwy boblogaethau a symud rhwng nythfeydd, gan ei gwneud hi'n anoddach i'r rhywogaeth adfer.
Ym mis Hydref, yn sgil y risg gynyddol i ddofednod, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd roi Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) ar waith a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid dofednod ledled Cymru gydymffurfio â mesurau bioddiogelwch llym i atal rhyngweithio a throsglwyddo haint posibl gan adar gwyllt.
Cafodd yr AIPZ ei godi ar 4 Gorffennaf ond mae ceidwaid dofednod yn cael eu hannog i gynnal mesurau bioddiogelwch llym drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
Mae'n dorcalonnus gweld ein hadar gwyllt rhyfeddol yn dioddef salwch mor ofnadwy.
Hoffwn ddiolch i'r RSPB a'n holl asiantaethau sy'n gweithio'n ddiflino i fonitro'r sefyllfa, a'n hawdurdodau lleol, y gwirfoddolwyr ac APHA.
Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd a gwrando ar gyngor hefyd - peidiwch â chodi unrhyw adar sâl neu farw a chadwch gŵn ar dennyn i atal cyswllt.
"Yn hytrach, rhowch wybod i DEFRA ar unwaith ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 03459 335577.
Dywedodd Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr RSPB Cymru:
Mae effaith ffliw adar ar boblogaethau adar y môr wedi bod yn ddinistriol. Mae'n pentyrru'r pwysau ar boblogaethau bregus ac mae'n ychwanegu at frys cynyddol cadwraeth o ran adar y môr. Yn anffodus, nid ffliw adar yw'r unig her sy'n wynebu adar y môr yng Nghymru. Mae effaith newid hinsawdd a gweithgareddau dynol ar y môr hefyd yn gofyn am ymdrechion brys i gynyddu cydnerthedd adar y môr, boed hynny drwy gynllunio morol, bioddiogelwch a rheoli pysgodfeydd.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
“Nid yw ffliw adar wedi diflannu. Yn anffodus, mae'n parhau i gael ei ddarganfod yn y boblogaeth adar gwyllt, yn enwedig ar Ynys Môn, aber afon Dyfrdwy ac arfordir Sir Benfro. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu farw, peidiwch â chyffwrdd â nhw a rhowch wybod i DEFRA amdanynt drwy’r gwasanaeth ar-lein.
“Os ydych yn geidwad adar, daliwch ati i fod yn wyliadwrus a chadwch y lefelau mwyaf trylwyr o hylendid a bioddiogelwch bob amser i amddiffyn eich haid rhag clefyd.”
Ni ddylai aelodau'r cyhoedd gyffwrdd ag unrhyw adar marw neu sy'n amlwg yn sâl, na’u casglu, a dylent gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn eu hatal rhag dod i gysylltiad.
Dylech ddefnyddio’r system ar-lein (ar GOV.UK) neu ffoniwch linell gymorth DEFRA (03459 335577) os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar marw.
Dylid rhoi gwybod i'r RSPCA ar unwaith am adar sâl neu adar sydd wedi’u hanafu ar 0300 1234 999.