STEM oedd rhai o’r meysydd a drafodwyd pan fu Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn ymweld â’r cwmni technolegol amlwg o Gaerdydd, IQE.
Bu Julie James hefyd yn trafod y sgiliau uwch sydd eu hangen i wella’r gwaith ymchwil, y datblygiad a’r cynhyrchu yn y maes hwn, a sut y mae Llywodraeth Cymru, trwy amrywiol raglenni a mentrau, gan gynnwys rhaglen Sêr Cymru, yn gweithio gyda diwydiant preifat ac academia i helpu Cymru i feithrin ei sgiliau STEM.
Mae IQE wedi bod yn flaenllaw yn y diwydiant lled-ddargludyddion ers dros bum mlynedd ar hugain, ac fe gaiff ei gydnabod fel cwmni sy’n darparu cynnyrch waffer uwch yn fyd-eang a gwasanaethau waffer i’r diwydiant lled-ddargludyddion.
Mae’n un o’r nifer cynyddol o gwmnïau technolegol sydd wedi dewis lleoli eu hunain yma, gan helpu i ddatblygu enw da Cymru fel sylfaen gadarn ar gyfer twf technoleg Lled-ddargludyddion a chydweithio â’r diwydiant.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn elfennau hanfodol o fewn nifer o ddyfeisiadau sy’n newid ein ffordd o fyw – o WiFi, ffonau clyfar a systemau GPS i gyfathrebu lloeren a goleuadau LED mwy effeithiol.
Yn dilyn ei hymweliad, dydwedodd Julie James:
“Gallai yr ymchwil, y datblygu a’r cynhyrchu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion cyfansawdd newid y sefyllfa gystadleuol yma yng Nghymru, gan helpu i hybu posibiliadau Cymru o ran twf economaidd. Roedd yr ymweliad hwn yn gipolwg diddorol iawn ar yr hyn y mae IQE yn ei wneud i gefnogi’r weledigaeth hon.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant ac academia i gryfhau mwy ar bosibiliadau economaidd Cymru yn y diwydiant hwn sy’n datblygu’n gyflym, ac i adeiladu ar ein capasiti o ran sgiliau STEM er mwyn datblygu ein heconomi a sicrhau cyfleoedd am swyddi o safon uchel ledled Cymru.”