Ymunodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, â chymhorthfa dechrau busnes ar gyfer entrepreneuriaid lleol yn Hwb Menter Wrecsam heddiw, i glywed am eu profiadau a'u gweithgareddau.
Mae'r Hwb yn cael ei ddarparu drwy Busnes Cymru, gyda'r nod o greu 100 o fusnesau newydd dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1 miliwn ar gyfer y prosiect peilot.
Mae'r Hwb yn darparu cymuned ar gyfer entrepreneuriaid, gan gysylltu â sefydliadau eraill megis Prifysgol Glyndwr, Coleg Cambria, diwydiant ac asiantaethau cymorth yn yr ardal.
Dywedodd Ken Skates:
"Roedd yn dda gen i ymweld â'r Hwb heddiw, a chlywed yn uniongyrchol am brofiadau'r entrepreneuriaid sy'n defnyddio'r cyfleusterau.
"Mae'n wych gweld bod cymaint o frwdfrydedd a thalent entrepreneuraidd yn yr ardal.
“Cynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru yn glir bod cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ledled Cymru yn hollol hanfodol os ydyn ni am lwyddo i ddatblygu economi Cymru.
"Yn awr yn fwy nag erioed, gyda'r heriau mae Brexit wedi'u peri, mae angen inni gefnogi ac annog busnesau newydd ac arloesi. Dyma'r ysgogwyr hanfodol ar gyfer yr economi, a bydd Hwb Menter Wrecsam yn helpu i lywio ein blaenoriaethau economaidd yn y dyfodol."
Dywedodd Carl Turner, Rheolwr Cymunedol Hwb Menter Wrecsam:
"Ers y lansio ychydig o dan flwyddyn yn ôl, rydyn ni wedi cynnal dros 30 digwyddiad ac wedi rhoi cymorth i dros 170 unigolyn. Mr Skates ei hun a dorrodd y rhuban ar y diwrnod hwnnw, felly mae'n weddus ei fod yn gallu dod a siarad â rhai o'n haelodau yn y cyfarfod bord gron byrfyfyr hwn.
"Cafodd ein haelodau'r cyfle i gael sgwrs â'r Gweinidog a thrafod eu llwyddiannau a'r pethau sy'n eu rhwystro. Rwy'n gwybod y bu hyn yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae cyfleoedd fel hyn yn galluogi gweinidogion a busnesau i elwa ar gael mynediad uniongyrchol, ac mae hynny'n helpu'r ddau barti i gael mewnwelediad gwell i sut y gallen nhw gefnogi ei gilydd a thyfu ein heconomïau lleol."