Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau ar waith i ailgydio yn y cynnydd a wnaed cyn y pandemig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, meddai’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wrth i ganlyniadau PISA gael eu cyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwelodd pob un ond deg o'r 73 gwlad a gymerodd ran yn asesiadau rhyngwladol PISA yn 2018 a 2022 ostyngiad mewn o leiaf un maes eleni. Mae perfformiad Cymru yn cyfateb i wledydd fel yr Unol Daleithiau a Norwy o ran sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn 2022, yn dilyn gwelliannau yng nghanlyniadau PISA 2019.

Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i ddod ag arweinwyr addysg o bob cwr o Gymru ynghyd i arwain ymateb ar draws y system-gyfan i gefnogi addysgu a dysgu a chodi safonau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles:

Cyn y pandemig, gwelwyd cynnydd cadarn mewn safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru. Yn anffodus, mae'n amlwg bod y pandemig wedi amharu ar y cynnydd hwn.

Rydyn ni eisoes wedi dechrau codi safonau mewn darllen a mathemateg, a wnawn ni ddim gadael i'r canlyniadau hyn ein bwrw oddi ar ein hechel.

Fis diwethaf, fe wnaethon ni lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i helpu i gefnogi’r dysgu a chodi safonau yn y meysydd allweddol hyn. Rwy hefyd wedi cyhoeddi'r adroddiad cenedlaethol cyntaf ar berfformiad ein plant o ran darllen a rhifedd a byddaf yn gwneud hyn bob blwyddyn i gadw llygad ar yr adferiad.

Fe wnaethon ni gefnogi ein hysgolion a'n dysgwyr drwy'r pandemig, a byddwn yn sefyll gyda'n gilydd ac yn eu cefnogi nawr.

Ers 2022, mae ysgolion yng Nghymru wedi dechrau gweithredu diwygiadau mawr hirdymor, gyda'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn cael ei addysgu a'i gyflwyno i bob dysgwr ym mhob ysgol erbyn 2026/27.

Ychwanegodd Jeremy Miles:

Mae ein diwygiadau addysg hirdymor bellach wedi dechrau ar ôl blynyddoedd o gynllunio ac, fel y dywedodd yr OECD, mae gwella addysg yn cymryd amser.

Rydyn ni wedi cymryd y cyfle sy’n codi ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ i chwyldroi ansawdd addysg yng Nghymru ac rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at fanteision enfawr i'n pobl ifanc.