Heddiw, nododd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ei blaenoriaethau ar gyfer yr agenda cyflogadwyedd a sgiliau.
Dywedodd:
“Rwy’n frwdfrydig iawn am yr agenda cyflogadwyedd a sgiliau ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hagenda’n un cryf. Mae gwaith cyffrous yn mynd rhagddo ar draws Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflogadwyedd wrth inni fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Yn amlwg, mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol o ran cefnogi cyflogadwyedd pobl ledled Cymru, a dylem ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y gyfradd gyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd i gefnogi pobl sy’n economaidd anweithgar, a phobl sydd mewn cyflogaeth nad yw’n ddiogel.
“Nid dim ond swyddi a sgiliau yw cyflogaeth. Mae’n bwysig bod pob agwedd ar bolisïau’r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl i gael swyddi cynaliadwy.
“Er mwyn hybu a chefnogi llewyrch yn y tymor hir, mae angen inni wneud pethau’n wahanol. Mae cyflogadwyedd a sgiliau wedi’i bennu fel un o’n prif flaenoriaethau wrth inni weithio i ddatblygu gweithlu cynhyrchiol sydd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gael cyflogaeth dda ac i gefnogi eu hunain, ynghyd â’r sgiliau fydd yn eu galluogi i ymateb i heriau’r dyfodol.”