Heddiw, aeth y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, ar ymweliad â'r Alban i ddysgu mwy am lwyddiant y wlad honno wrth greu coetir newydd.
Bu'r Gweinidog a Fergus Ewing ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Wledig a Chysylltedd, yn ymweld â nifer o safleoedd coedwigaeth, gan gynnwys cynllun creu coetir newydd yn Westloch a'r cynllun ‘Coed a Defaid’ ar Fferm Wakefield Farm yng Ngororau'r Alban. Aeth y Gweinidog ar daith hefyd o amgylch Forest Research lle cafodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ymchwil hanfodol sy’n cael ei wneud yno.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno gofyniad statudol i gyhoeddi ac i gynnal strategaeth goedwigaeth ac yn 2016, argymhellodd adolygiad McKinnon y dylid symleiddio’r broses plannu coed ac y dylai busnesau sy'n plannu coed fynd ati’n gynt i drafod gyda'r cymunedau o dan sylw.
Yn 2017, cyflwynwyd menter newydd o'r enw “Coed a Defaid”, a'i nod oedd helpu rheolwyr tir i sylweddoli bod creu coetir yn gyfle i helpu ac i ddatblygu'r mentrau ffermio sydd ganddynt eisoes.
Yn ystod taith o amgylch y safleoedd hyn, bu'r Gweinidog yn trafod y datblygiadau hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, Mr Ewing, a chyda swyddogion Comisiwn Coedwigaeth yr Alban. Roedd hynny'n rhan o'r ymchwil y mae'n ei gwneud er mwyn datblygu polisïau a mentrau i greu mwy o orchudd coed yng Nghymru.
Mae Coetiroedd i Gymru, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coedwigaeth, a'r cynllun gweithredu 5 mlynedd sy'n cyd-fynd â'r strategaeth honno, yn pennu targed o 2,000 hectar o blannu newydd bob blwyddyn. Mae creu mwy o orchudd coed a datblygu sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig yn ganlyniadau allweddol a bennir yn y Strategaeth.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Does dim digon o goed yn cael eu plannu yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyna pam dw i wedi nodi bod gwella ac ehangu'n coetiroedd yn un o 'mhrif flaenoriaethau fel Gweinidog. Mae'n strategaeth Coetiroedd i Gymru yn weledigaeth hirdymor ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru ac mae angen inni ategu'r strategaeth honno â gweithredu arloesol ac effeithiol ar lawr gwlad.
Mae'n bwysig bod ein gorwelion yn eang a’n bod yn ceisio dysgu oddi wrth lwyddiannau gwledydd eraill. Er bod llawer mwy o dir ar gael yn yr Alban nag yng Nghymru i'w droi'n goedwigoedd, roed yr ymweliad yn gyfle amhrisiadwy i edrych ar sut mae'r Alban wedi mynd ati i wneud hynny ac ar y llwyddiant a gafwyd wrth greu mwy o goetiroedd. Dw i'n ddiolchgar i Fergus Ewing, i Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban, ac i bawb y cwrddais â nhw, am y croeso cynnes."
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Fergus Ewing:
"Roedd yn bleser mawr cael croesawu Ms Blythyn i'r Alban. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwerthfawr i rannu'n profiadau ac i gryfhau'r cydweithio rhyngom.
"Mae diwydiant coedwigaeth yr Alban yn llwyddiant ysgubol sydd wedi cyfrannu £1 biliwn at economi'r wlad a chynnal 25,000 o swyddi. Creu coetir sydd wrth wraidd y llwyddiant hwnnw a dw i wedi cyflwyno nifer o gamau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Drwy weithio law yn llaw â'r diwydiant a rheolwyr tir eraill, rydyn ni bellach yn dechrau gweld cynnydd derbyniol iawn yn nifer y coed sy’n cael eu plannu yn yr Alban.
"Dw i'n gobeithio y gallwn ni barhau i rannu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth inni weithio i gyrraedd ein nod cyffredin o blannu a thyfu mwy o goed er budd pawb ar yr ynysoedd hyn."