Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Blaengwrach i longyfarch y disgyblion ar eu llwyddiant wrth ailgylchu.    

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ysgol Gynradd Blaengwrach, ger Castell-nedd Port Talbot, oedd un o ddwy ysgol yng Nghymru ble y cymerodd pob disgybl ran mewn her ailgylchu ledled Prydain yn ystod gwyliau’r haf.   

Wedi’i drefnu gan Ailgylchu dros Gymru a Wastebuster, bwriad yr Her Ailgylchu yn y Cartref oedd addysgu disgyblion am yr hyn y gellid eu hailgylchu yn eu cartrefi a manteision ailgylchu.  

Cafodd yr her ei arwain gan Gethin Jones, y cyflwynydd teledu o Gymru, a’r cyflwynydd teledu plant, Maddie Moate, yn ogystal â’r arbenigwr ailgylchu Capten Busta, masgot poblogaidd Wastebuster. Roedd y disgyblion yn derbyn taflen waith i fynd gartref i ddod i wybod beth y gellid ei ailgylchu yn y cartref, a’r ysgolion yn cael eu rancio yn ôl canran y disgyblion oedd yn dychwelyd y daflen waith wedi’i chwblhau.  

Roedd 59 o ysgolion o Gymru wedi cofrestru i gynnal gweithgarwch, a’r ysgol fuddugol wedi’i dewis ar hap o bob ysgol ble y dychwelodd 100 y cant o’u disgyblion daflenni gwaith.  

Meddai’r Gweinidog:

”Mae Cymru yn arwain gweddill y DU gyda chyfradd ailgylchu o 64%, ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn dangos cymaint o frwdfrydedd tuag at ailgylchu.  Os ydym i gyflawni ein huchelgais o gyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025, yna mae’n hanfodol bod cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o hyn.

“Llongyfarchiadau i’r o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Blaengwrach am gymeryd rhan yn yr her ailgylchu yn y cartref ac am ddod yn arbenigwyr ailgylchu yn eu cartrefi.  Maent yn bendant wedi ennill y teitl “ailgylchwr gwych”.  Rwy’n gobeithio bod pob disgybl yng Nghymru a gymerodd ran wedi mwynhau yr her gyffrous hon.”  

Meddai Mrs Sam Sharp, Pennaeth Ysgol Gynradd Blaengwrach:

“Mae sicrhau bod disgyblion yn ymwybodol o’r rhan y gallant ei chwarae ym maes ailgylchu a chynaliadwyedd yn bwysig iawn.  Mae gennym pwyllgor eco proactif iawn sy’n monitro ein gwastraff, ein mesuryddion ac sy’n cefnogi mentrau i lywio’r gymuned leol yn ogystal â’r disgyblion, o bwysigrwydd bod yn ecogyfeillgar.  Rydym  yn falch iawn o’r gwaith y maent yn ei wneud a pha mor gryf yw llais y disgybl yn yr ysgolion."  

Dywedodd Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru: 

“Mae’n hyfryd cael gweld y Gweinidog yn cefnogi ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: Her Ailgylchu yn y Cartref.  Dim ond dwy wlad arall sy’n well na Chymru o ran ailgylchu a chan fod mwy a mwy o bobl Cymru’n ailgylchu, hoffwn ni weld ein gwlad ni’n mynd i frig y tabl! Os gallwn ni ennyn diddordeb plant ysgol mewn ailgylchu, byddan nhw wedyn yn ysbrydoli eu teuluoedd i ailgylchu ac yn eu helpu i ddeall y ffyrdd gorau o ailgylchu yn y cartref."