Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi bod yn cwrdd â modelau rôl menywod ifanc sy'n ystyried dilyn gyrfa ym maes peirianneg sifil.
I nodi Diwrnod Cenedlaethol Menywod ym maes Peirianneg, mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru yn trefnu digwyddiad i annog mwy o fenywod i fentro i'r maes.
Nod y digwyddiad yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a bydd merched sy'n beirianwyr sifil yn rhoi tri chyflwyniad byr ar eu gwaith.
Cyn y digwyddiad a gaiff ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, Julie Williams, i gwrdd â Sophie Jones, Bekki Constantinou-Troake ac Alison Graham o gwmni Atkins, Caerdydd a Maria Gkouma o gwmni Mott MacDonald, Caerdydd.
Mae Bekki ac Alison yn Llysgenhadon STEM (Gwyddoniaeth, Peirianneg a Mathemateg) ac maen nhw'n siarad â myfyrwyr am yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Ar ôl cyfarfod â'r pedair menyw sydd eisoes yn beirianwyr, dywedodd Julie James, AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
“Does dim rheswm yn y byd pam na ddylai menywod ddilyn gyrfa ym maes peirianneg sifil.
“Mae cwrdd â'r pedair menyw ifanc ysbrydoledig hyn sy'n annog menywod eraill i fentro i'r maes yn atgyfnerthu'r angen dros gynnal Diwrnod Cenedlaethol Menywod ym maes Peirianneg.
“Rwy'n edrych ymlaen at y seminar heno ac at wrando ar fwy o fenywod ysbrydoledig sy'n rhannu eu cyfoeth o brofiad ym maes peirianneg sifil.”
Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ati i gynyddu nifer y menywod yn y sector gwyddoniaeth.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus, ac fe'i cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth). Nod yr adroddiad oedd dod o hyd i ffyrdd o annog mwy o ferched a menywod yng Nghymru i ddilyn gyrfa yn y sector gwyddoniaeth. Rhoddwyd argymhellion am y ffordd orau o fynd i'r afael â'r prinder mawr o fenywod yn rolau STEM yng Nghymru a'r DU.
Dywedodd Julie Williams, y Prif Gynghorydd Gwyddonol:
“Mae llawer o gyfleodd cyffrous ar gael i fenywod sydd eisiau datblygu gyrfa ym maes peirianneg sifil ac mae'r cyflogau'n gystadleuol hefyd.
“Mae'n bwysig ein bod ni'n annog menywod ifanc a merched i ystyried yr opsiynau hyn. Mae gan fenywod gymaint i'w gynnig wrth ddylunio'r amgylchedd rydyn ni'n byw ynddo.”
Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr, Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru:
“Mae peirianneg sifil yn yrfa gyffrous i ferched ac i ddynion fel ei gilydd ac yn rhoi cryn foddhad. Mae'n bleser gennyf arddangos y math o waith y mae peirianwyr sifil fel ni yn ei wneud - sef dylunio, rheoli ac adeiladu'r seilweithiau hynny sy'n hollbwysig yn ein bywydau.
“Boed yn bontydd, yn briffyrdd, yn ddraeniau, neu'n adeiladau, peirianwyr sifil yw'r bobl sy'n gwneud iddynt ddigwydd.”