Heddiw (dydd Gwener, 7 Hydref), mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi rhoi diweddariad pwysig ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gyda datblygwyr.
Rhoddodd y Gweinidog nifer o ddiweddariadau allweddol a oedd yn cynnwys cynnydd ar Gytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru - addewid a grëwyd i gwmnïau gadarnhau eu bwriad i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr a throsodd o uchder y mae nhw wedi'u datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf.
Cadarnhaodd y Gweinidog fod datblygwyr mawr wedi ymrwymo i'r cytundeb ac, mewn rhai achosion, mae gwaith adfer wedi dechrau.
Y datblygwyr sydd wedi arwyddo'r cytundeb yw Persimmon, Taylor Wimpey, Lovell, McCarthy a Stone, Countryside, Vistry, Redrow, Crest Nicholson a Barratt.
Dywedodd y Gweinidog:
Rwyf wastad wedi ei gwneud hi'n glir nad wyf yn disgwyl i lesddalwyr ysgwyddo'r gost o atgyweirio pethau sy’n gysylltiedig â diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdanynt a'm bod yn disgwyl i ddatblygwyr dderbyn eu cyfrifoldebau.
Yn dilyn ein cyfarfod bwrdd crwn ym mis Gorffennaf, rwy'n falch iawn bod nifer o ddatblygwyr mawr wedi cydnabod eu cyfrifoldeb drwy ymuno â Chytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru.
Fe wnes i gyfarfod â'r datblygwyr hyn ddoe i gadarnhau'r camau nesaf, a'u cynlluniau a'u hamserlenni ar gyfer adfer.
Hoffwn eu cymeradwyo am eu hymgysylltiad hyd yma ac rwy'n edrych ymlaen at berthynas gynhyrchiol yn y dyfodol.
Mewn rhai achosion, mae datblygwyr wedi dechrau eu gwaith adfer, ac yn gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn yn parhau yn ddi-oed.
Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariadau allweddol hefyd ar waith arolygu hanfodol a wnaed drwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, diwygio'r system ddeddfwriaethol bresennol, y Cynllun Cymorth Lesddalwyr ac ynghylch ad-dalu'r rhai sydd eisoes wedi talu am waith arolygu.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Rwyf wedi cael gwybod bod gwaith arolygu wedi'i wneud cyn lansio Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy'n cael ei ariannu gan drigolion, perchnogion adeiladau neu asiantau rheoli.
Pan fo hyn wedi digwydd, ac yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol, gallaf gadarnhau y bydd costau'r arolygon yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru.
Er ei bod yn iawn bod datblygwyr yn cymryd cyfrifoldeb am ddiffygion y maent yn atebol amdanynt, mae perchnogion adeiladau ac Asiantau Rheoli yn gyfrifol hefyd am sicrhau diogelwch adeiladau ac mae'n bwysig bod rhaglenni cynnal a chadw effeithiol ar waith.
Byddwn yn annog pob un o'r trigolion i sicrhau eu hunain bod gwaith cynnal a chadw ar eu hadeiladau yn cael ei wneud yn unol â'u cytundebau prydles.