Heddiw, bu Eluned Morgan yn ymweld â Chanolfan Soar ym Merthyr Tydfil er mwyn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud gan Fenter Iaith Merthyr yn y Ganolfan i hybu’r Gymraeg.
Mae’r Ganolfan, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mewn hen gapel ac mae’n cynnwys theatr a man ar gyfer gweithgareddau. Mae’n rhoi cyfle i’r trigolion lleol ddysgu’r iaith, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Canolfan Soar yw cartref yr Urdd a Mudiad Meithrin yr ardal. Maent yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu, chwarae a chymdeithasu yn Gymraeg.
Dywedodd Eluned Morgan:
“Mae’r hyn welais i yng Nghanolfan Soar heddiw wedi creu cryn argraff arna i. Mae Menter Iaith Merthyr, yr Urdd a’r Mudiad Meithrin yn rhoi cyfleoedd di-rif i bobl o bob oed ddefnyddio, ymarfer a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.
“Mae cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn hanfodol os ydym am gyrraedd y targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Canolfan Soar a chanolfannau tebyg yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn, yn enwedig mewn ardaloedd fel Merthyr, lle mae’r rhan fwyaf yn siarad Saesneg.”