Cafodd ei ddatblygu diolch i gyllid gan Raglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.
Yn 2015, cyhoeddodd Dr Margaret Flynn yr adroddiad 'Chwilio am atebolrwydd', sef adolygiad achos o esgeuluso pobl hŷn oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn Ne-ddwyrain Cymru, a ymchwiliwyd fel Ymgyrch Jasmine. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid datblygu system adrodd agored a thryloyw ar gyfer niwed pwysau difrifol i'r croen, a elwir yn friwiau pwyso, yn y sector cartrefi gofal yng Nghymru.
Yn ystod ei ymweliad, gwelodd y Gweinidog y gwaith sydd wedi bod ar y gweill mewn nifer o gartrefi gofal i ddatblygu rhaglen newydd ar y we, sy'n cael ei defnyddio i wella arferion y staff a’u helpu i nodi, categoreiddio, gofalu a rheoli briwiau pwyso. Gellir defnyddio'r rhaglen mewn unrhyw leoliad gofal ac mae'n rhoi'r cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen er mwyn i staff nodi a chategoreiddio'n gywir ac adrodd am unrhyw friwiau pwyso difrifol.
Mae'r system yn cynnwys lluniau enghreifftiol o niwed i'r croen i helpu staff i benderfynu ar hyd a lled y niwed y maent yn gweld ar eu cleifion i benderfynu'n fwy cywir ar y driniaeth orau, ac i atal niwed pellach. Mae'r arweiniad hwn yn seiliedig ar ganllawiau Nyrsys Hyfywedd Meinwe Cymru Gyfan, felly mae’n helpu i safoni llwybrau gofal.
Cafodd ei ddatblygu diolch i gyllid gan Raglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru. Y nod hirdymor yw sicrhau bod y system hon ar gael ledled Cymru.
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
“Roedd adroddiad Flynn yn nodi newid sylweddol yn y gwaith o atal, gofalu a rheoli briwiau pwyso. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella gofal y rhai sy'n byw yn ein cartrefi gofal.
“Mae'r offeryn rydw i wedi gweld ar waith heddiw yn enghraifft wych o'r ffordd y mae technoleg newydd arloesol yn cael ei defnyddio i gefnogi'r broses o nodi, rheoli ac adrodd am friwiau pwyso.
“Rwy'n arbennig o falch o weld sefydliadau ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd, gwybodeg, y rheoleiddwyr ac yn wir y Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau yn gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu technolegau arloesol er mwyn gwella ansawdd y gofal a ddarparwn.”