Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn ymweld ag Academi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i siarad â'i brentisiaid am eu profiadau dysgu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Julie James:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal un o'r rhaglenni prentisiaid mwyaf llwyddiannus yn Ewrop. Mae Academi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn enghraifft wych o hyn. 

“Rydym yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i ddysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru ac rydym yn ymrwymedig i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oedran, gan flaenoriaethu cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid  a sgiliau lefel uwch.”

Ar hyn o bryd, mae gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe 24 o chwaraewyr sy'n brentisiaid, ac mae tri ar ddeg ohonynt yn dechrau eu blwyddyn gyntaf. 

Dywedodd Tony Thomas, Pennaeth Addysg a Lles Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe,

“Rydym yn ffodus iawn ein bod yn gallu cymryd mantais o wasanaethau gwych Pathways Training, darlithwyr Coleg Castell-nedd Port Talbot a'n tiwtor NVQ sy'n un o'r gorau yn yr Uwch-gynghrair. 

“Rydym yn pwysleisio i'n chwaraewyr ifanc a'u rhieni nad yw prentisiaeth pêl-droed ar gyfer datblygu sgiliau technegol a dealltwriaeth dactegol yn unig. 

“Mae addysg yn hanfodol, oherwydd, mewn gwirionedd, dim ond nifer fechan iawn o chwaraewyr prentisiaeth sy'n mynd ymlaen i chwarae'n broffesiynol.

“Rydym hefyd yn darparu sesiynau Sgiliau Bywyd ar gyfer ein prentisiaid, a'n nod yw datblygu unigolion sy'n ddinasyddion da. Mae nifer wedi llwyddo i gael canlyniadau cymeradwy sy'n eu galluogi i ddilyn addysg uwch os byddant yn dewis gwneud hynny.”

Ariennir y brentisiaeth hon ar hyn o bryd gan £83 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynnal rhaglenni cyllid yr UE, gan greu lleiafswm o 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oedran er mwyn cefnogi unigolion a helpu cyflogwyr i ddatblygu eu busnesau.

Ychwanegodd Julie James: 

“Rydym yn ymrwymedig i gyd-weithio â darparwyr dysgu seiliedig ar waith i gefnogi a datblygu rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant er mwyn llenwi Cymru â gweithlu amrywiol, medrus a pharod.”