Mae'r Gweinidog Addysg wedi galw heddiw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau bod addewidion Refferendwm 2016, oedd yn addo arian i ddisodli cyllid yr UE, yn cael eu cadw, ac y bydd Cymru yn parhau i reoli unrhyw fuddsoddiad os bydd unrhyw ymadawiad â'r UE.
Wrth siarad mewn digwyddiad yng Nghaerdydd i nodi saith mlynedd o Sêr Cymru, cyhoeddodd Kirsty Williams hefyd fuddsoddiad o £7.5 miliwn ar gyfer cam nesaf y rhaglen ymchwil gwyddonol.
Ers 2014, mae bron i £350 miliwn o gyllid yr UE wedi'i fuddsoddi mewn Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru, 20% o ddyraniad cyllid strwythurol yr UE i Gymru.
Bydd y cyllid newydd i Sêr Cymru yn cynnig Cymrodoriaethau Diwydiannol i gryfhau'r cysylltiadau rhwng academyddion a diwydiant, a Grantiau Sbarduno sy'n cynnwys cyllid cyfalaf i brynu offer a chynyddu capasiti.
Mae Sêr Cymru wedi cefnogi dros 340 o fyfyrwyr Doethuriaeth ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol yng Nghymru, o 29 gwlad, gyda cyfanswm o £100 miliwn o fuddsoddiad. Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, CCAUC, prifysgolion Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd.
Meddai'r Gweinidog:
Mae ein sylfaen ymchwil ac arloesi yn un o'n hasedau cenedlaethol. Mae angen inni gadw ein gwyddonwyr dawnus yma yng Nghymru, tra'n parhau i ddenu'r doniau academaidd gorau ledled y byd.
Mae bod yn rhan o'r UE wedi chwarae rôl enfawr wrth sicrhau bod y DU yn dod yn ganolfan wyddonol fyd-eang, ond mae Brexit yn peryglu'r llwyddiant hwnnw. Os ydym yn gadael heb gytundeb, bydd yn cael effaith ar ymchwil wyddonol ar unwaith a gallai gymryd blynyddoedd i ail-adeiladu'r cysylltiadau hynny.
Mae Cronfeydd Strwythurol wedi bod yn hanfodol i dwf gwyddoniaeth yng Nghymru, felly dwi unwaith eto yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau y byddant yn cadw at yr addewidion hynny yn y Refferendwm, ac yn sicrhau na fydd Cymru mewn colled o gwbl os ydym yn ymadael â'r UE.
Hefyd, fel rhan o unrhyw berthynas newydd gydag Ewrop, mae hefyd yn hollbwysig bod modd i bobl, busnesau a phrifysgolion yng Nghymru barhau i ddefnyddio rhaglenni ymchwil ac addysg fel Horizon Europe ac Erasmus Plus.