Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi llongyfarch y cwmni electroneg o'r Drenewydd Control Techniques ar ôl iddo symud yr holl gynhyrchiant o Tsieina i'w brif safle gweithgynhyrchu yng Nghymru a chreu 44 o swyddi newydd.
Cefnogwyd cynlluniau'r cwmni gyda £60,000 gan Lywodraeth Cymru ac mae'n golygu bod eu gyriannau cyffredinol bellach yn cael eu cynllunio a'u cynhyrchu ar safle Control Techniques yn y Drenewydd.
Mae'r cwmni, sy'n rhan o Nidec – gwneuthurwr moduron mwyaf y byd – yn gyflogwr pwysig yng Nghanolbarth Cymru gyda 383 o staff.
Mae'r newyddion yn adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol gan y cwmni yn eu canolfan yn y Drenewydd.
Mae'r 44 swydd newydd wedi'u creu ar ôl i gyfleuster cynhyrchu gael ei gludo ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd o Tsieina.
Mae'r symudiad yn allweddol i gynyddu cynhyrchiant yng Nghanolbarth Cymru gyda 1,200 o yriannau i'w gwneud bob dydd i ateb y galw byd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r cwmni ac AMRC Cymru ar brosiect sydd â'r nod o sbarduno gwelliannau cynhyrchiant.
Meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
"Mae penderfyniad Control Techniques i symud cynhyrchiant i'r Drenewydd i'w groesawu'n fawr ar gyfnod sy'n parhau i fod yn eithriadol o anodd i'n heconomi.
"Mae'r buddsoddiad yn dangos hyder gwirioneddol yn eu gweithlu a bydd nid yn unig yn diogelu swyddi, ond yn creu rhai newydd sy'n newyddion gwych.
"Dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r cwmni a dwi'n edrych ymlaen at weld y cwmni'n mynd o nerth i nerth yng Nghanolbarth Cymru."
Meddai Martyn Cray, Is-lywydd Gweithrediadau Control Techniques:
"Drwy gynhyrchu ein gyriannau Comander yma yng Nghymru, rydym wedi profi bod yr arbenigedd a'r gallu i weithredu prosiect o'r maint hwn yma yng Nghymru. Gweithiodd ein timau gweithrediadau mewnol a'n timau cadwyn cyflenwi yn ddiflino i gyflawni'r prosiect, ar amser ac o fewn y gyllideb, a gallwn edrych ymlaen yn awr at arbedion cost sylweddol ynghyd â chreu gwaith newydd yma yn y Drenewydd."