Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cefnogi’r cyhoeddiad heddiw bod Ardal Lechi’r Gogledd-orllewin wedi ei henwebu fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Yr wythnos diwethaf ym Mharis, cyflwynodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yr achos ym Mharis i UNESCO gydnabod yr ardal am ei chyfraniad unigryw i dreftadaeth ddiwylliannol y byd.

Pwerwyd y Chwyldro Diwydiannol gan lo o gymoedd y De, ond llechi oedd ar doeau cartrefi'r bobl a'r ffatrïoedd lle roeddent yn gweithio. Cloddiwyd y llechi hyn gan ddynion gweithgar a medrus bro’r chwareli. 

Allforiwyd llechi Cymru ar longau o borthladdoedd Gwynedd, ac maent i'w gweld hyd heddiw ar doeau adeiladau ar hyd a lled y byd.

Roedd rheilffyrdd yn ystumio eu ffordd rhwng y mynyddoedd gan gysylltu’r chwareli â'r porthladdoedd, ac mae graddfa aruthrol y chwareli hyn, a'r trefi a phentrefi chwarelyddol gerllaw gyda'u diwylliant Cymraeg cryf, yn dangos sut y newidiodd y diwydiant y gymuned amaethyddol yn gymdeithas ddiwydiannol. Mae gan yr ardal le i ddiolch i ddyfeisgarwch y chwarelwyr hyd heddiw. 

Os bydd y cais yn llwyddiannus, yr ardal hon fydd y pedwerydd safle treftadaeth y byd yng Nghymru, gan ymuno â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward I yng Ngwynedd, a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Yn 2016, amcangyfrifwyd bod safleoedd sydd wedi’u dynodi gan UNESCO yn y DU yn denu mwy na £100miliwn i'r economi bob blwyddyn.

Ym Mhencadlys UNESCO ym Mharis, trafododd y Gweinidog y cais ymhellach gyda Matthew Lodge, Gweinidog a Llysgennad Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i UNESCO; a Moez Chakchouk, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynorthwyol Cyfathrebu a Gwybodaeth UNESCO. 

Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol ei bod yn gobeithio y byddai'r statws yn helpu i "adfywio a thyfu'r economi" yn yr ardaloedd chwarelyddol.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae gan Dirwedd Lechi'r Gogledd-orllewin dreftadaeth ddaearyddol, gymdeithasol, economaidd a diwylliannol gyfoethog, a dywedir mai'r ardal hon o Wynedd wnaeth doi adeiladau'r byd yn y 19eg ganrif, gyda chyflenwadau aruthrol o lechi o'r ardal yn cael eu hallforio ledled y byd.

“Mae'r enwebiad yn ddathliad o waith cenedlaethau o ddynion a merched a fu'n byw ac yn gweithio yma, gan siapio'r dirwedd, a'u gwaddol nhw yw'r enwebiad hwn.

“Mae’r stori hon yn cyffwrdd y cymunedau lleol a’r ymwelwyr - daw miloedd o bobl bob blwyddyn i weld y dirwedd drawiadol; i fwynhau ein Hamgueddfa Lechi Genedlaethol, teithio ar reilffyrdd Blaenau Ffestiniog a Thal-y-llyn a phrofi ein diwylliant unigryw, ac mae hyn oll yn rhoi hwb i gyflogaeth a'r economi yn lleol

“UNESCO fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, ond yn fy marn i mae'r ardal yn llwyr haeddu statws Safle Treftadaeth y Byd.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Rydym wrth ein bodd y bydd Tirwedd Lechi'r Gogledd-orllewin yn cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU i'w chofrestru fel Safle Treftadaeth y Byd. Mae treftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol Cymru i'w dathlu.

“Mae'r enwebiad hwn yn gydnabyddiaeth bellach o'r dirwedd eithriadol hon - sy'n ganolog i'n daeareg a'n diwylliant ni, ond o bwysigrwydd byd-eang.”

Yn ogystal â'r cais, trafododd y Gweinidog y cyfleoedd ar gyfer meithrin cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru ac UNESCO i'r dyfodol, ynghyd â Strategaeth Ryngwladol Cymru a Blwyddyn Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig.

Rhannu’r dudalen hon