Gweinidog yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yng nghwmni peirianwyr y dyfodol
Mae ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos mai dim ond 5.8% o’r prentisiaid a gychwynnodd gwrs peirianneg y llynedd oedd yn fenywod (2016-17). Roedd y nifer a gychwynnodd brentisiaeth yn y maes adeiladu yn llai na hynny hyd yn oed (2.9%)
Bu'r Gweinidog yn siarad wrth iddi ymweld â Wylfa Newydd, Ynys Môn. Yno cyfarfu â Nia James a Sophie Wright, sydd yn brentisiaid ail flwyddyn ar Gynllun Prentisiaethau Technegol Horizon, a hithau'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau'r wythnos hon.
Yn wreiddiol o Ddolgellau, symudodd Nia i Fangor yn 16 oed i fwrw'i phrentisiaeth.
Dywedodd:
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn peirianneg ac mae'n wych fy mod i wedi gallu rhoi hyn ar waith. Rwy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd a dod i adnabod pobl newydd. Doedd symud o adra yn 16 oed ddim yn beth hawdd ond roeddwn i'n fodlon gwneud hynny er mwyn cael y cyfle yma i weithio a hyfforddi mewn amgylchedd sydd mor ddiddorol ac yn symud yn gyflym.
“Mae bwrw prentisiaeth yn golygu fy mod i yn ennill cyflog wrth ddysgu ac rwy’n magu profiad a sgiliau mewn maes a fydd yn cynnig cyfleoedd i mi am flynyddoedd i ddod. Mae hwn yn adeg gwirioneddol gyffrous i mi. Rwy'n cael gweld yr orsaf bŵer ym mhob cam o’i datblygiad a byddaf yn cael gwaith yno pan fydd yr orsaf yn agor ei drysau.”
Gwnaeth Sophie, a gafodd ei magu ar Ynys Môn, astudio cemeg, ffiseg a mathemateg yn y chweched dosbarth cyn iddi ymuno a rhaglen Brentisiaeth yr Wylfa.
Dywedodd:
“Rwyf wastad wedi ymddiddori yn y pynciau hyn, ac mae hyn wedi fy arwain at beirianneg gan fod modd i mi ddysgu sut y mae pethau'n gweithio. Pan glywais i fod Horizon Nuclear Power yn bwriadu adeiladu Gorsaf Bŵer Niwclear yn agos i'm cartref, fe wnes benderfynu’n syth fy mod am wneud cais am brentisiaeth. Roedd hyn yn golygu mod i’n gallu gwireddu fy mreuddwyd o fod yn beiriannydd ac yn gallu parhau i fyw yma ar Ynys Môn.
“Bod yn weithredwr yn yr ystafell reoli, dyna yw'r freuddwyd unwaith y byddaf wedi gorffen bwrw fy mhrentisiaeth. Dyma'r swydd sy'n sicrhau bod pethau'n dal i fynd ac yn mynd fel watsh. Byddwn yn argymell y gwaith i unrhyw ferch ifanc sy'n mwynhau gwaith ymarferol.”
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae Nia a Sophie yn enghreifftiau gwych o fenywod ifanc sy’n dilyn gyrfaoedd diddorol sy'n rhoi boddhad, a hynny ar ôl astudio pynciau STEM a bwrw prentisiaeth. Mae'r ddwy ohonynt yn dechrau gyrfa mewn amgylchedd technegol sy'n gofyn am sgiliau uchel, sydd â digon i'w gynnig o ran dilyniant gyrfa, amrywiaeth yn y gwaith a diogelwch swyddi.
“Yn anffodus, mae clywed am fenywod yn y maes hwn yn beth prin. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael â hyn. Does dim rheswm pam na ddylai menyw fynd ati'n frwd i ddilyn gyrfa ym maes STEM ac mae prentisiaethau yn ffordd wych o wneud hyn. Mae'n bwysig iawn annog merched a menywod ifanc i astudio pynciau STEM fel bod cyflogwyr yn gallu dod o hyd i weithwyr sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn i'w busnes fynd o nerth i nerth. Bydd hefyd yn sicrhau bod menywod yn cael yr un cyfleoedd gwaith â dynion. Rwy'n gobeithio y bydd profiadau Nia a Cain yn ysbrydoli menywod eraill i wneud prentisiaethau neu addysg uwch mewn pynciau STEM.”
Mae'r Rhaglen Brentisiaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.