Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i'r Sioe Frenhinol ddychwelyd am y 120fed tro, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer creu sector ffermio cynaliadwy a gwydn, ac wedi tawelu meddwl ffermwyr a thirfeddianwyr ynghylch cymorth yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae bod yma, yn uchafbwynt y calendr amaethyddol, am y tro cyntaf eleni fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn fraint ac yn anrhydedd.

"Mae llawer o'r bobl fyddaf yn cwrdd â nhw yr wythnos hon nid yn unig yn gyfrifol am roi bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel ar ein bwrdd - ond hefyd am ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd - sy'n bygwth y cynhyrchu’r bwyd hwnnw.

"Bydd effaith tywydd gwlyb difrifol ar gynnyrch, pocedi ffermwyr a phrisiau i ddefnyddwyr yn dod yn amlwg iawn. Ecosystemau gwydn yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

"Rydyn ni yma i wrando a gweithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr, tirfeddianwyr a'r rhai sy'n gweithio i wella'r ecosystemau hanfodol hyn, i greu sector ffermio cynaliadwy a gwydn yng Nghymru sy'n addas ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol.

"Mae wedi bod yn heriol, ond rwyf wir yn teimlo ein bod yn gwneud cynnydd trwy drafod ystyrlon.

"Rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r amserlen newydd ar gyfer cyflwyno ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy. "Rydyn ni wastad wedi dweud na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu at hynny."

"Rydym wedi clywed a deall y pryderon a godwyd drwy'r broses ymgynghori. Rwyf eisoes wedi cadeirio dau gyfarfod Bwrdd Crwn Gweinidogol a bydd trydydd yn cael ei gynnal yma yn y Sioe Frenhinol yr wythnos hon. Rydym am barhau i ddatblygu'r dull partneriaeth sydd ei angen i gwblhau dyluniad a gweithrediad y Cynllun.

"Mae darparu sicrwydd a sefydlogrwydd ynghylch cefnogaeth yn y dyfodol yn rhywbeth rwy'n gwybod sydd ar frig agenda'r rhan fwyaf o ffermwyr. Dyna'n union pam, yn gynharach yr wythnos hon, fe wnes gadarnhau bod nifer o gynlluniau ar gael i gefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyflwyno yn 2026.

"Yn ogystal â'r cynlluniau hyn, rydym wedi lansio ymarfer cadarnhau data'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac wedi cyhoeddi ein bwriad i Gynllun y Taliad Sylfaenol fod ar gael eto yn 2025.

"Ein bwriad hefyd yw parhau i gefnogi cynllunio a chreu coetiroedd drwy'r Cynllun Creu Coetir a'r Grant Creu Coetir yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael.

"Ond rwy'n gwybod fod meysydd eraill o bolisi Llywodraeth Cymru sydd angen trafodaeth bellach - fel TB buchol ac ansawdd dŵr afonydd. Byddwn yn trafod y materion cymhleth hyn yr wythnos hon yn Sioe Frenhinol Cymru, a byddwn yn parhau i gydweithio â'r diwydiant yn y misoedd a ddaw i ddatblygu atebion.

"Dyna pam rydyn ni yma - i wrando a dysgu. I weithio mewn partneriaeth i greu dyfodol lle mae ein ffermwyr, sy'n asgwrn cefn ein cymunedau gwledig, yn parhau i gynhyrchu'r gorau o fwyd Cymru i'r safonau uchaf, tra'n diogelu ein hamgylchedd gwerthfawr.

"Gyda milfeddygon, maen nhw'n diogelu iechyd a lles eu hanifeiliaid - sicrhau diogelwch ac ansawdd y bwyd sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a gwneud yn siwr bod ein cynnyrch y gorau o fewn unrhyw le yn y byd. Ni ellir tanbrisio eu rôl.

"Yr hyn sy'n amlwg i mi gan bawb rwyf wedi cwrdd â nhw hyd yma yw eu bod i gyd yn angerddol am ddyfodol ffermio yng Nghymru. Yr ymdeimlad hwn o falchder mewn ffermio a bod yn ffermwr yw'r hyn sy'n gwneud Sioe Frenhinol Cymru yn ddigwyddiad mor wych - ac rwy'n siŵr na fydd eleni'n wahanol.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn ato ac yn dymuno'r gorau i'r Sioe Frenhinol a phawb sy'n cymryd rhan."