Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cyhoeddi bod Aled Roberts wedi cael ei benodi i gynnal adolygiad cyflym o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi'u llunio gan Awdurdodau Lleol.
Bydd hyn yn digwydd ar unwaith.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Weinidogion Cymru eu hystyried. Rhaid i'r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.
Hefyd, rhaid i'r cynlluniau ddangos camau gweithredu clir i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae Gweinidog y Gymraeg bob amser wedi dweud yn glir ei fod yn disgwyl gweld cynlluniau cryf ac uchelgeisiol.
Yn gynharach heddiw, dywedodd Alun Davies wrth Aelodau'r Cynulliad:
“Yr adolygiad cyflym hwn fydd y cam cyntaf o ran newid pethau. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad hwn, rhaid i unrhyw waith rydym yn ei ddatblygu yn y dyfodol gynnwys y bobl hynny sy'n darparu addysg ar lawr gwlad – athrawon, llywodraethwyr, penaethiaid, a staff cymorth – y rheini a fydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Bydd y camau rydym yn eu cymryd nawr yn dylanwadu ar siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Pwy bynnag sy'n gwneud fy swydd i yn 2050, dwi am iddo fe neu iddi hi edrych yn ôl ar yr adeg hon fel cyfnod o newid, y sbardun a wnaeth wahaniaeth go iawn i'r iaith a'i siaradwyr.
“Bydd Aled yn dod â phrofiad sylweddol a llygaid craff i'r rôl hon. Fel cyfreithiwr, cyn-arweinydd awdurdod lleol, llywodraethwr ysgol ac wrth gwrs, cyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, mae gan Aled y cefndir a'r profiad sydd eu hangen er mwyn dadansoddi'r rhesymau pam nad yw cynllunio ar gyfer y Gymraeg mor effeithiol ag y dylai fod.
“Bydd yn creu cyfres o argymhellion i symud ymlaen â'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Rhaid i'r argymhellion osod cyfeiriad clir i mi ar gyfer newid. Bydd dull cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn ystod y cyfnod hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Dwi am i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru gyfrannu at yr adolygiad hwn.”