Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae’r Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi pecyn cymorth tai- mis, werth hyd at £6.3m ar gyfer hosbisau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r holl wasanaethau hosbis yng Nghymru’n dibynnu ar godi arian elusennol am tua dwy ran o dair o’u hincwm maent wedi gweld gostyngiad mawr mewn cyllid yn ystod y pandemic coronafeirws.

Mae’r cyfyngiadau diweddar sydd wedi’u gorfodi yn ystod yr argyfwng wedi arwain at ddigwyddiadau codi arian yn cael eu canslo, siopau elusen cau ac i ymgyrchoedd gael eu gohirio. Ar yr un pryd, mae'r argyfwng yn gwneud eu gwasanaethau hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn eu galluogi i barhau i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol hyd yn oed yn absenoldeb y gweithgareddau codi arian.
Mae’n dod o’r gronfa frwydro gwerth £1.1 biliwn sydd wedi’i chreu gan Lywodraeth Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog:

“Rydw i’n falch iawn o allu cyhoeddi’r gefnogaeth yma i’n hosbisau ni er mwyn dal ati i weithredu yn ystod y cyfnod anodd yma.

Wrth i’w hincwm  elusenol arferol ddiflannu, mae risg ddifrifol y gallai gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes lithro i ansolfedd.       

Mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes sy’n cael eu darparu gan y sector gwirfoddol yn rhan allweddol o deulu’r GIG, gan ddarparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, a helpu i atal derbyn i ysbyty pan mae modd osgoi hynny.

Gan fod y GIG yn rhoi blaenoriaeth i driniaeth a gofal i bobl sydd â COVID-19, mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes yn bwysicach nag erioed, gan ddarparu cysondeb gwasanaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch angheuol.                  

Bydd yr arian hwn yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a gofal o ansawdd uchel ledled Cymru.” 

Dywed Tracey Bleakley, Prif Weithredwr hosbis y DU: 

Mae hosbis y DU yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd hosbisau yn yr ymateb COVID-19 a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth gymryd pwysau'r GIG. Bydd yr arian newydd hwn yn ein galluogi i gefnogi'r ymateb presennol i'r pandemig.