Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi croesawu ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw sy'n dangos bod nifer y bobl mewn gwaith ar ei huchaf ers mis Mawrth y llynedd, gyda'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau'n is na chyfradd diweithdra'r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ystadegau'n dangos bod y gyfradd gyflogaeth yn 73.9%, cynnydd o 1.8 pwynt canran ar y chwarter, mae gostyngiad o 4.3% mewn diweithdra, i lawr 0.2 pwynt canran, tra bod anweithgarwch economaidd wedi gostwng 1.7 pwynt canran.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Fy mlaenoriaeth fel Gweinidog yr Economi yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn barod i roi hwb cychwynnol i adferiad cryf yng Nghymru o bandemig COVID-19, gyda'r gefnogaeth iawn i fusnesau a gweithwyr Cymru, fel ein bod yn adeiladu economi gryfach, wyrddach a mwy ffyniannus, mewn Cymru decach i bawb.

"Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn galonogol, gan ddangos bod mwy o bobl bellach mewn gwaith, gyda nifer y bobl mewn gwaith yr uchaf ers mis Mawrth y llynedd, tra bod diweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU. Fodd bynnag, gwyddom fod ansicrwydd o hyd yn wynebu economi a marchnad lafur Cymru, oherwydd effaith barhaus Covid ac ymadawiad y DU â'r UE.

"Mae cefnogi pobl ifanc yn rhan hanfodol o'n gwaith i sbarduno adferiad economaidd Cymru, ac mae gan y rhaglen lywodraethu sy'n cael ei chyhoeddi heddiw gan y Prif Weinidog ymrwymiadau uchelgeisiol i gyflawni'r Warant Pobl Ifanc, gan roi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru. Mae hefyd yn ein hymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau i bob oed.

"Rydym yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â busnesau a chydag undebau llafur i ailadeiladu a chryfhau ein heconomi; gwarchod bywoliaethau a chreu swyddi newydd ledled Cymru."

Ers i bandemig coronafeirws (COVID-19) daro, mae Gweinidogion wedi darparu dros £2.5 biliwn o gyllid i fusnesau Cymru, mewn pecyn sydd wedi'i gynllunio i ategu ac adeiladu ar y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £400 miliwn o gymorth busnes yn ychwanegol at gyfran Cymru o wariant Llywodraeth y DU ar gymorth busnes yn Lloegr. Mae wedi cynnwys penderfyniadau anodd ond maent wedi bod yn angenrheidiol i ddiogelu swyddi a busnesau yn ystod yr argyfwng hwn.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Yn ogystal â'r £2.5 biliwn o gyllid rydym wedi'i ddarparu i fusnesau Cymru, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth sgiliau a hyfforddiant hanfodol i weithwyr.

"Mae ein gwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi cefnogi dros 54,000 o bobl yn ystod ei dwy flynedd gyntaf, gan gynnig cyngor a chymorth i bobl 16 oed a throsodd i ddod o hyd i waith, mynd ar drywydd hunangyflogaeth neu ddod o hyd i le mewn addysg neu hyfforddiant. Yn ogystal, mae ein gwasanaeth Busnes Cymru wedi cefnogi 1,000 o Entrepreneuriaid ifanc tuag at hunangyflogaeth ac wedi helpu busnesau gyda’r Rhaglen Dechrau Busnes Newydd i greu dros 10,000 o swyddi yn ystod yr un cyfnod o ddwy flynedd. Gwnaethom hefyd ddarparu pecyn o gymhellion cyflogi i gyflogwyr recriwtio unigolion a hyfforddi gweithwyr y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt.

"Dwi hefyd yn falch o'r gwaith hanfodol y mae ein Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol yn ei wneud yn ein cymunedau. Ers 2015, maent wedi cefnogi 60,722 o unigolion o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, a mae 23,642 ohonynt wedi cael gwaith. Yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021, a thrwy’r cyfnod pan oedd y pandemig ar ei waethaf, parhaodd y rhaglenni i gyflawni, gan gefnogi bron i 12,000 o unigolion, gyda dros 5,000 yn dechrau gweithio."