Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG, a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Mae ffigurau diweddaraf GIG Cymru ar berfformiad yn dangos gwelliannau yn gyffredinol mewn amseroedd aros am ofal wedi'i drefnu, sef rhai o'r gorau rydym wedi'u gweld am nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch o weld bod ein buddsoddiad i leihau rhai o'r amseroedd aros hiraf yn sicrhau canlyniadau da.
Y perfformiad o ran atgyfeiriadau at driniaeth ar gyfer mis Mawrth oedd y gorau am chwe blynedd, ac mewn tri bwrdd iechyd ni chafwyd unrhyw gleifion yn aros mwy na 36 wythnos. Roedd y nifer o gleifion a arhosodd fwy na 14 wythnos am therapi ar ei isaf am 10 mlynedd, a dywedodd chwe bwrdd iechyd nad oedd neb yn aros dros 14 wythnos. Mewn tri bwrdd iechyd, ni chafwyd neb yn aros mwy nag 8 wythnos am brofion diagnosteg, a gwelwyd gwelliannau hefyd yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
Rwy'n falch o weld gostyngiad o 10% mewn achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o gymharu â mis diwethaf a 8.5% o gymharu â blwyddyn ddiwethaf. Ond mae mwy i'w wneud yn y maes hwn, ac rydym yn datblygu ffyrdd newydd o gefnogi pobl i adael yr ysbyty a mynd nôl i'r gymuned pan fônt yn barod.
Bu'n fis arall prysur iawn i staff yr Adrannau Brys - y mis Ebrill prysuraf erioed - gyda chynnydd o 6% mewn gweithgarwch o gymharu â mis Ebrill 2018. Arhosodd mwy o bobl lai na 4 awr yn yr adrannau o gymharu â mis Ebrill y llynedd, ond cawsom ein siomi gan y perfformiad mewn nifer o leoliadau, ac rydym wedi cymryd camau ar unwaith i sicrhau gwelliannau. Unwaith eto, rhagorodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar y targed, er gwaethaf cynnydd mewn galwadau brys o gymharu â mis diwethaf.
Rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac wedi bod yn glir â’r byrddau iechyd bod angen iddyn nhw wneud gwelliannau yn eu perfformiad ar unwaith."