Bydd gwasanaethau seibiant i ofalwyr a gwasanaethau i helpu oedolion sydd ag anghenion gofal i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn cael hwb ariannol gwerth £15m y flwyddyn nesaf
Daeth cyhoeddiad y Gweinidog i nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr - gan gadarnhau unwaith yn rhagor ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi'r 370,000 o bobl yng Nghymru sydd â chyfrifoldeb gofal. Gofalwyr sy'n darparu 96% o'r gofal mewn cymunedau ar draws Cymru, ac maen nhw'n cyfrannu dros £8.1bn i economi Cymru bob blwyddyn.
Bydd y £15m ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i sicrhau rhagor o gydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn i oedolion ag anghenion gofal gael cymorth yn eu cartrefi, gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty neu sicrhau bod modd iddynt ddychwelyd cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, gan ryddhau adnoddau'r ysbyty.
I ofalwyr, fydd yn helpu i gyflawni'r tair Blaenoriaeth Genedlaethol i Ofalwyr - helpu i fyw yn ogystal â gofalu; adnabod a chydnabod gofalwyr; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o wella ansawdd a phriodoldeb y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig i ofalwyr, gan gynnwys y math o wasanaeth seibiant neu gymorth o fath arall sydd ar gael a pha mor aml mae'n cael ei gynnig. Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i symud ymlaen â'r agenda hwn.
Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol.
Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi £15m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau ataliol sy'n cefnogi oedolion ag anghenion gofal. Bydd y buddsoddiad hwn o gymorth i ddatblygu gwasanaethau sy'n helpu oedolion sydd angen cymorth i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a fydd o ganlyniad yn helpu i gadw pobl allan o'r ysbyty.
"I nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, rwy’ hefyd am ddiolch o galon i'r nifer enfawr o ofalwyr di-dâl sydd gennym ar draws Cymru. Mae eu cyfraniad hael yn gwneud gwahaniaeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n derbyn gofal, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
"Er mwyn eu helpu, rwy'n falch o gadarnhau y byddwn ni'n buddsoddi rhan o'r £15m i wella gwasanaethau i ofalwyr - yn arbennig gwasanaethau seibiant fel bod modd i ofalwyr gael toriad, i’w helpu fel gofalwyr ac yn eu bywydau tu hwnt i ofalu."
Mae'r cyllid hwn yn rhan o £30m ychwanegol a ddyrannwyd i fyrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn helpu i gadarnhau ffyrdd integredig o weithio. Cyhoeddwyd y cyllid yng Nghyllideb Ddrafft 2019-20 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Mae Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud yn glir mai byrddau partneriaeth rhanbarthol fydd yn gyfrifol am ddatblygu modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol di-dor.
Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at y £100m o gyllid Trawsnewid dros ddwy flynedd sydd ar gael i helpu i gyflwyno modelau newydd o ofal i gyflawni amcanion y cynllun.