Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi 14 aelod newydd i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 yn darparu bod aelodaeth y Cyngor i gynnwys dim llai na 14 aelod. Byddai saith aelod yn cael eu penodi’n uniongyrchol gan Weinidogion Cymru a byddai saith aelod yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru wedi iddynt gael eu henwebu gan sefydliadau a restrir yn Atodlen Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014.
Mae penodi aelodau o’r Cyngor drwy benodiadau a enwebwyd a phenodiadau uniongyrchol yn helpu i sicrhau bod pob sector o’r gweithlu addysg ehangach yn cael eu cynrychioli’n deg.
O’r 14 aelod, mae 8 yn benodiadau newydd ac mae 6 yn ailbenodiadau, a byddan nhw’n cychwyn eu tymor pedair blynedd ar 1 Ebrill 2019.
Dyma’r aelodau:
Penodiadau uniongyrchol
Ailbenodiadau:
- Angela Jardine
- Kevin Pascoe
- Berni Tyler
Penodiadau newydd:
- Dr Gwawr Taylor
- Anne Pitman
- Rosemary Lait
Penodiadau a enwebwyd
Ailbenodiadau:
- Paul Croke (Colegau Cymru)
- Clare Jones (yr Undeb Addysg Cenedlaethol – ochr Undeb Cenedlaethol yr Athrawon)
- Jane Setchfield (Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau)
Penodiadau Newydd:
- David Williams (Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid) penodiad newydd
- Kelly Edwards (Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru) penodiad newydd
- Eithne Hughes (Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau) penodiad newydd
- Stephen Drowley (Bwrdd Safonau Hyfforddiant Addysg) penodiad newydd
- Ian Roberts (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru) penodiad newydd
Dywedodd y Gweinidog:
“Rydw i wrth fy modd cadarnhau penodiadau aelodau Cyngor y Gweithlu Addysg. Bydd gan bob un ohonyn nhw ran bwysig yn y gwaith o gynnal a chodi safonau addysgu a sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y dysgu a’r cymorth gorau.”
Cafodd y penodiadau hyn eu gwneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Does dim cydnabyddiaeth ariannol am wneud y swyddi hyn ac nid yw aelodau’r Cyngor yn cael eu talu, fodd bynnag, telir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol.
Mae’n ofynnol i aelodau ymroi 10-12 diwrnod y flwyddyn fel arfer.
Gwneir yr holl benodiadau ar sail rhinwedd ac nid oes a wnelo’r broses ddewis â gweithgarwch gwleidyddol o gwbl. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol i weithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os oes unrhyw weithgarwch i’w ddatgelu) gael ei gyhoeddi.
- Mae Stephen Drowley wedi ymhél â gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf sy’n ymwneud â chanfasio ar ran y blaid Lafur
- Mae Kevin Pascoe wedi ymhél â gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf sy’n ymwneud â chanfasio ar ran y blaid Lafur
- Mae Clare Jones wedi ymhél â gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf sy’n ymwneud â phacio a dosbarthu amlenni ar ran y blaid Lafur
- Mae Kelly Edwards wedi ymhél â gweithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf sy’n ymwneud â bod yn aelod o’r blaid Lafur.