Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi bod Deep Sagar wedi’i benodi yn gadeirydd annibynnol newydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, i ddechrau ar 1 Ionawr 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hyn yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus agored, yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar bolisi a rheoleiddio tai ac yn archwilio perfformiad a gweithgarwch rheoleiddiol Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Fel y cadeirydd newydd, bydd Deep Sagar yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i’r Bwrdd, yn gweithredu fel llefarydd ar ran y Bwrdd ac yn darparu cyngor i’r Gweinidog ar iechyd a pherfformiad y sector cymdeithas dai.

Gwneir pob penodiad o'r fath ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol â’r argymhellion Nolan gwreiddiol, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rheini a benodir (os oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi’i ddatgan). Ni ddatganwyd unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Ionawr 2021 am 3 blynedd a bydd tâl o £256 y diwrnod.  

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Deep Sagar wedi’i benodi yn gadeirydd annibynnol newydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru.

Bydd arbenigedd a sgiliau Deep nid yn unig o fudd i’r Bwrdd wrth iddo barhau â’i waith, ond byddant hefyd yn herio ac yn darparu cyngor gwerthfawr a fydd yn helpu i ddatblygu’r sector Cymdeithas Dai.