Mae cyplau o’r un rhyw wedi cael yr hawl i fabwysiadu ers 2005 yng Nghymru a Lloegr.
Wrth nodi Wythnos Mabwysiadu a Maethu LGBT (5 – 11 Mawrth) soniodd y Gweinidog am yr angen i fwy o deuluoedd yng Nghymru gynnig bod yn fabwysiadwyr posibl i’r 140 o blant sydd ar y rhestr aros ar hyn o bryd.
Mae cyplau o’r un rhyw wedi cael yr hawl i fabwysiadu ers 2005 yng Nghymru a Lloegr, a chafodd 1 o bob 8 o’r trefniadau mabwysiadu a wnaed yn 2016-17 eu gwneud gyda chyplau o’r un rhyw.
Fe wnaeth bron i 6,000 o blant dderbyn gofal yng Nghymru yn 2017. Ond mae 140 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd, ac mae 4,435 o blant mewn gofal maeth.
Mae 6 o bob 10 o’r plant sy’n aros am leoliadau mabwysiadu yn rhan o grŵp o frodyr neu chwiorydd. Mae hynny’n golygu bod angen arbennig am fabwysiadwyr posibl sy’n barod i fabwysiadu grŵp o blant. Yn ogystal, mae angen pobl i fabwysiadu plant sydd ag anghenion iechyd a datblygu ychwanegol. Mae angen rhagor o ofalwyr maeth ar yr awdurdodau lleol hefyd, wrth i lawer o’r gofalwyr presennol agosáu at oed ymddeol (55 yw oed gofalwyr maeth ar gyfartaledd).
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies:
“Mae mabwysiadu neu faethu plentyn yn gallu bod yn brofiad gwerth chweil. Mae magu plentyn yn gyfrifoldeb mawr, ond mae ei weld yn tyfu ac yn gwireddu ei wir botensial yn brofiad arbennig.
“Cyplau o’r un rhyw oedd yn gyfrifol am 1 o bob 8 o’r achosion o fabwysiadu yng Nghymru yn 2016-17, ond fe hoffwn i annog mwy o bobl LGBT i ystyried mabwysiadu neu faethu plant.
“Mae’n adeg gyffrous i fod yn ofalwr maeth yng Nghymru. Wrth i’r Fframwaith Maethu Cenedlaethol gael ei roi ar waith, bydd modd sicrhau bod holl ofalwyr maeth Cymru yn cael y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth briodol i’w galluogi i ddarparu’r gofal gorau posibl i’r plant a’r bobl ifanc sydd dan eu gofal.
“Felly, os ydych chi’n teimlo bod yr amser a’r ymroddiad gennych i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant sy’n agored i niwed, beth am ystyried mabwysiadu neu faethu?”