Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i fwy o bobl Cymru fod yn ofalwyr maeth dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi dechrau Pythefnos Gofal Maeth, mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu llythyr personol at bob gofalwr maeth yng Nghymru, gan ofyn iddynt helpu i ysbrydoli eraill i ystyried maethu.

Ar hyn o bryd, mae dros 4,400 o blant yn cael gofal maeth yng Nghymru. Oedran cyfartalog y gofalwyr maeth yw 55, ac mae angen i awdurdodau lleol recriwtio mwy o ofalwyr maeth o wahanol gefndir ac oedran. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf i ddatblygu Fframwaith Maethu Cenedlaethol Cymru (£400k yn 2017-18), sydd bellach yn cael ei roi ar waith ar draws pob rhanbarth. Rhoddwyd cyllid tebyg yn 2018-19 i'r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol.  

Un o brif nodau'r fframwaith yw annog mwy o bobl i faethu, yn arbennig gyda gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, a datblygu strategaeth farchnata a brand genedlaethol wedi'i hategu gan ddulliau gweithredu rhanbarthol ar gyfer recriwtio a chadw.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth 2018 rhwng 14 a 27 Mai.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Hoffwn i ddiolch o waelod calon i'r gofalwyr maeth am eu holl waith yn cefnogi ac yn gofalu am rai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed.  

"Rydw i wedi cyfarfod nifer o ofalwyr maeth, ac mae'r ymroddiad a'r ymrwymiad rwy'n ei weld bob amser yn creu argraff ddofn arnaf, er fy mod yn gwybod bod maethu yn aml yn gallu bod yn dasg heriol tu hwnt. 

"Rydw i hefyd wedi cael y pleser o siarad â phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Roedden nhw'n dweud mor gefnogol oedd eu teuluoedd maeth, nid yn unig yn darparu cartref iddyn nhw ond hefyd yn cynnig awyrgylch teuluol lle'r oedd modd iddyn nhw deimlo'n ddiogel, tyfu a ffynnu. 

"Gall teuluoedd maeth hefyd eu helpu i baratoi at y dyfodol a chyflawni eu huchelgais. Fe glywais bobl ifanc sydd wedi cael eu maethu yn dweud bod eu gofalwyr maeth wedi eu helpu i ystyried cyfleoedd addysg bellach a chyflogaeth, neu roi hyder iddyn nhw ddilyn uchelgais o fath arall. Dyna dystiolaeth ardderchog o waith miloedd o ofalwyr maeth a'u teuluoedd yma yng Nghymru. 

"Felly hoffwn i ddweud diolch. Mae'r hyn maen nhw'n ei wneud mor bwysig i'n cymdeithas ac, yn arbennig, i'r plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal."