Neidio i'r prif gynnwy

Gallai gwasanaethau tân ac achub Cymru gael rôl ehangach wrth gadw pobl yn ddiogel fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol. Dyma gyhoeddiad y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn parhau i gael llwyddiant wrth leihau nifer a difrifoldeb achosion o dân.

Cymru sydd â’r rhaglen fwyaf helaeth o ymweliadau i wirio diogelwch tân yn y cartref ym Mhrydain Fawr, sy'n canolbwyntio’n effeithiol ar y bobl sydd fwyaf mewn perygl oherwydd tanau. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu'r gwasanaeth gyda £660,000 mewn cyllid i sicrhau bod yr ymweliadau hyn, a’r dyfeisiau diogelwch sy’n cael eu darparu fel rhan ohonynt, yn rhad ac am ddim i ddeiliaid y tai. 

Mae llwyddiant y rhaglen yn golygu bod y galw ar y gwasanaeth yn awr mor isel, bod y gwasanaeth yn llai a llai prysur mewn sawl rhan o Gymru. 

Dim ond i lond llaw o danau y mae nifer o orsafoedd tân gwledig yn ymateb iddynt bob mis bellach. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad, y mae’r rhan fwyaf o Gymru yn dibynnu arnynt, sy'n arwain at risg y bydd cynaliadwyedd y Gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig mewn perygl. 

Hefyd, mae'r Gwasanaeth Tân yn dal i ymateb i nifer uchel o alwadau tân diangen - sy'n fwy niferus na’r tanau go iawn, ac maent yn cyfrif am oddeutu 40% o’r holl achosion y mae’r Gwasanaeth yn rhoi sylw iddynt, gan arwain at ddefnyddio llawer o adnoddau am ddim budd o gwbl. 

Mae'r weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yn y dyfodol sy'n cael ei hamlinellu heddiw yn cynnwys y posibilrwydd o roi'r cyfrifoldeb i wasanaethau tân ac achub i ymateb i amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, o ran atal ac ymateb i argyfwng.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Hoffwn ddiolch i'n gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru am barhau i lwyddo i leihau nifer yr achosion o dân a pha mor ddifrifol yw'r tân. Does gen i ddim amheuaeth fod y llwyddiant hwn yn rhannol oherwydd y pwyslais mawr y mae’r Gwasanaeth Tân yn ei roi ar atal tanau a gwella ymwybyddiaeth o risgiau tân. 

Mae diffoddwyr tân wedi cael eu hyfforddi’n dda i ddelio ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn ogystal â thân. Mae ganddynt yr arbenigedd a’r parch i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadau nad ydynt yn danau a’u hatal hefyd. Mae potensial amlwg i'r gwasanaeth wneud cyfraniad gwirioneddol at gefnogi’r GIG yn benodol, boed hynny o ran ymateb i argyfyngau meddygol neu helpu i atal damweiniau fel codymau yn y cartref; ac mae tystiolaeth glir y gall hyn sicrhau gwell canlyniadau ac arbedion sylweddol. Mae nifer o enghreifftiau da o hyn yn digwydd, ond maent yn aml ar raddfa fechan ac i’w gweld yn achlysurol. 

Rwy’n credu bod gofyn i ni fynd ymhellach, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cyson a strategol. Rwy’n dymuno gweld Gwasanaeth Tân ac Achub sy’n delio ag amryw o fygythiadau i iechyd a diogelwch pobl, a hynny o ran atal ac ymateb i argyfyngau, gan ategu yn hytrach na dyblygu gwaith gweithwyr proffesiynol eraill. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar werth cyhoeddus y Gwasanaeth a sicrhau dyfodol cynaliadwy ar ei gyfer. 

Mae potensial go iawn i fanteisio ar lwyddiant y Gwasanaeth a chynyddu ei werth i bobl Cymru. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall yn y man ynglŷn â'r ffordd ymlaen.

I gyflawni'r weledigaeth:

  • Mae arnom angen cael cytundeb ynghylch tâl ac amodau diffoddwyr tân, sy’n adlewyrchu rôl ehangach yn deg. Mae trafodaethau dwyochrog ar lefel y DU wedi bod yn araf iawn yn hyn o beth. Er nad yw Gweinidogion Cymru yn dymuno camu y tu hwnt i’r dull negodi presennol, maent yn credu y gallai pennu cyfres o ofynion cliriach, wedi’u diffinio’n well i Gymru roi’r hwb angenrheidiol ymlaen i’r trafodaethau. Mae'r Dirprwy Weinidog yn ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried darparu cymorth ariannol ar gyfer cytundeb tâl sy’n bodloni anghenion Cymru a diffoddwyr tân Cymru.
  • Mae arnom angen cytundeb cadarn a strategol rhwng y Gwasanaeth Tân, y GIG a phartneriaid eraill, er mwyn gallu defnyddio adnoddau’r cyntaf lle mae eu hangen fwyaf. Mae uwch reolwyr eisoes yn cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch hyn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r ATA i sicrhau bod ganddynt y mecanweithiau cyllid a llywodraethu angenrheidiol i gefnogi'r rôl ehangach hon wrth symud ymlaen.