Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi agor yr Uwchgynhadledd Arloesedd gyntaf erioed yng Nghymru.
Roedd ganddi fformat galw heibio gyda siaradwyr, sesiynau cyfranogi a gwybodaeth gyda'r nod o annog cydweithio, arloesedd a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
"Nid wyf am i arloesedd gael ei ystyried fel rhywbeth dibwrpas neu'n faich ychwanegol.
"Mae cyfnodau heriol o'n blaenau. Er mwyn wynebu'r heriau, mae angen arloesi er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o fodloni ein hanghenion, i ddatrys ein problemau, ac i wneud defnydd gwell o'n hadnoddau a'n technolegau.
"Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i arloesi a sicrhau y gallwn ddatblygu'r syniadau i gael effaith.
"Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei rhaglen Catalydd Menter Ymchwil Busnesau Bach, sy'n defnyddio'r sector gyhoeddus fel prif gwsmer deallus, ac sy'n hyrwyddo ein diwydiant ymchwil a datblygu yng Nghymru. Mae'n helpu i gynnal y technolegau newydd rydym yn eu datblygu i ddatrys yr heriau go iawn a chreu swyddi a chyfoeth i Gymru.
"Rydw i am i'n sector gyhoeddus ddefnyddio'r holl offer sydd ganddi i wireddu gobeithion a disgwyliadau pobl Cymru.
"Drwy wneud hyn a thrwy weithio gyda'n gilydd, gallwn addasu i'r anghenion sy'n newid, gwella ein heffeithlonrwydd a lleihau costau.
"Mae angen i ni greu diwylliant lle nad ychydig o fusnesu neu bobl yn unig sy'n cydweithio i gyflwyno a datblygu ein hymchwil, ond diwylliant lle mae pawb yn gwneud hynny."