Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni Suprex wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth dyma’r unig gwmni masnachol yn y DU sy’n datblygu cymwysiadau prosesu ar gyfer carbon deuocsid (CO2).

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2012, dyfarnodd Llywodraeth Cymru £345,000 i Brifysgol Bangor ar gyfer cyfleusterau  profi gwyrdd sy’n gweithio ar raddfa ddiwydiannol ac sy’n caniatáu i CO2 gael ei ddefnyddio yn lle toddyddion traddodiadol yn y diwydiant cemegol. 


Cwmni deillio yw Suprex sydd â’i leoliad yng Nghaernarfon ac sy’n eiddo i Brifysgol Bangor a Phytovation ar y cyd. Y cyllid cychwynnol hwnnw oddi wrth Lywodraeth Cymru a’i gwnaeth yn bosibl iddynt sefydlu’r cwmni. 


Mae Suprex yn defnyddio dull prosesu arloesol sy’n fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar na’r dulliau traddodiadol. Bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio mewn cyflasau, persawrau, a chynhyrchion cosmetig, gofal personol, maethyllol a fferyllol. Ef yw’r unig sefydliad yn y DU sy’n gwneud y math hwn o ymchwil a’r math hwn o waith.


Y ganolfan gychwynnol ym Mhrifysgol Bangor oedd yr un fwyaf blaenllaw yn y DU yn y maes arbenigol hwn a bellach, Suprex yw’r unig gyfleuster masnachol yn y DU. 


Mae’r cwmni’n cydweithio â nifer o brifysgolion yn y DU a chydag amrywiaeth eang o fusnesau mawr a BBaChau. Mae wrthi hefyd yn gweithio ar brosiectau cydweithredol newydd.   


Dywedodd y Gweinidog, Julie James: 


“Mae Suprex yn enghraifft wych o gwmni sydd wedi cael cymorth cynnar mewn maes sy’n bwysig i’r economi. Mae’r cymorth hwnnw wedi arwain at greu busnes hunangynhaliol ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at greu swyddi sgil uchel yn y gymuned. 


“Dw i’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni wedi chwarae rhan weithredol yn y cydweithredu hwn rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, gan ddangos bod Cymru’n genedl arloesol.  


“Byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd eisoes yn Gwyddoniaeth i Gymru ac yn ei Strategaeth Arloesi. Rydyn ni dal yn gwbl benderfynol o sicrhau bod Cymru’n cynnig yr amodau gorau posibl ar gyfer arloesi a sicrhau bod busnesau’n gallu tyfu.


“Hoffwn i ddymuno pob lwc a phob llwyddiant i Suprex yn y dyfodol. Dw i’n siŵr y bydd gyda ni am gryn amser i ddod."


Dywedodd Andy Beggin, Prif Weithredwr Suprex: 

“Gan ein cwmni ni mae’r cyfarpar mwyaf amlbwrpas yn y DU ar gyfer prosesu CO2. Mae gennym hefyd gyfleusterau dadansoddi o’r radd flaenaf sy’n ein galluogi i ddatblygu cemeg gwyrdd a chynaliadwy er mwyn creu cynhyrchion a phrosesau newydd. Rydyn ni’n cydweithio â chwmnïau masnachol a grwpiau academaidd i ddatblygu’r cynhyrchion a’r prosesau hynny ar gyfer y farchnad. 

“Fodd bynnag, heb y cymorth a gawson ni oddi wrth Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ni fyddai wedi bod yn bosibl inni feithrin y sgiliau, yr arbenigedd, y cyfleusterau a’r cysylltiadau oedd eu hangen er mwyn sicrhau llwyddiant cwmni deillio Suprex.”