Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi dau benodiad i Fwrdd Cymwysterau Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ddau benodiad fel a ganlyn:

  • Julie Brannan – penodi'n aelod am gyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2021.
  • John Latham – penodi'n aelod am gyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 7 Rhagfyr 2021.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles:

Rwy'n falch o gyhoeddi'r ddau benodiad hwn i Fwrdd Cymwysterau Cymru.

Dros y tair blynedd nesaf bydd gan Cymwysterau Cymru rôl hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi ein hymateb i COVID-19 a’n hadferiad ohono, ac i’n helpu i ddiwygio drwy gyflwyno cymwysterau newydd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru."

Mae rôl bwysig gan y Bwrdd o ran sicrhau bod gan Cymwysterau Cymru arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol clir, a’i fod yn ymgymryd â gweithgareddau'n effeithlon ac yn unol â'i nodau, ei amcanion a'i dargedau.