Neidio i'r prif gynnwy

Mewn digwyddiad lansio yn y Gogledd, croesawyd canllawiau sydd â'r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru gan Weinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pecyn cymorth yn rhoi cyngor clir ac ymarferol i ddarparwyr gofal plant ar amrywiaeth o bynciau gwrth-hiliol. Bydd y pecyn ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru.

Fe'i datblygwyd gan gonsortiwm o bum partner gofal plant a chwarae – Cwlwm - a'r Sefydliad Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL).

Roedd lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, Llywodraeth Cymru, mentoriaid cymunedol ac amrywiaeth o unigolion â phrofiad bywyd hefyd yn rhan o'i ddatblygiad.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys cyngor ymarferol ynghylch dod yn gyfarwydd â chod Halo ar gyfer gwallt â gwead affro, a darparu llyfrau sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru fel rhan o lyfrgelloedd plant.

Bydd yn rhoi cyngor i leoliadau a staff am y camau y gallant eu cymryd i sicrhau bod yr amgylchedd y maent yn ei greu a'r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig yn wrth-hiliol.

Mae hefyd yn cefnogi lleoliadau i feithrin perthynas â rhieni a'r cymunedau lleol i hyrwyddo dealltwriaeth am bobl o wahanol gefndiroedd.

Mae'r pecyn cymorth yn atgyfnerthu uchelgais cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sy'n anelu at sicrhau bod pawb, waeth beth yw eu cefndir, yn gallu manteisio ar brofiadau gofal plant a phrofiadau addysgol o ansawdd uchel, sy'n ymatebol yn ddiwylliannol.

Mae'r rhain yn cynnwys nodau ac amcanion penodol ar gyfer lleoliadau addysg a gofal plant sy'n canolbwyntio ar blant, dysgwyr o bob oed a'r gweithlu.

Er mwyn cefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â'n partneriaid, DARPL a Cwlwm, i greu hyfforddiant gwrth-hiliol ar-lein ar gyfer sector y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â chefnogi twf yn y ddarpariaeth o adnoddau gwrth-hiliol sydd ar gael i'r sector.

Wrth siarad yn ystod cynhadledd DARPL yn Llandudno a lansio'r pecyn cymorth, dywedodd Gweinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant:

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwaith yn mynd i sbarduno newid ar draws addysg a gofal plant.

Rwy'n falch iawn o gefnogi DARPL a Cwlwm wrth lansio'r pecyn cymorth hwn heddiw, gan ei fod yn ychwanegu at y gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu ein nodau cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol.

Mae ein gwaith yn cynnwys ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol yn ein cwricwlwm a'n darpariaeth, hyfforddi addysgwyr ac ymarferwyr i gydnabod a herio eu rhagfarnau eu hunain, a chreu amgylcheddau sy'n dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant.

Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod ein lleoliadau gofal plant, chwarae ac addysg yn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys datblygu adnoddau sy'n cynrychioli ac yn dathlu'r tapestri cyfoethog o ddiwylliannau sydd i'w gweld yma yng Nghymru.

Wrth lansio'r pecyn cymorth, dywedodd Sylfaenydd a Chyfarwyddwr DARPL, Chantelle Haughton, fod y canllawiau yn 'ymarferol a chefnogol'.

Ychwanegodd:

Wrth i ni frasgamu i fodloni ein hymrwymiad i arweinyddiaeth gwrth-hiliol a dysgu proffesiynol ar draws y maes gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar, mae enghreifftiau o waith rhagorol yn dod i'r amlwg yn ein maes, ond nid oes gennym amser i orffwys ar ein rhwyfau, mae digon i'w wneud o hyd i wella profiadau a deilliannau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn ystod y blynyddoedd mwyaf tyngedfennol yn eu datblygiad, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer dysgu gydol oes.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnig mannau cychwyn defnyddiol sy'n arwain at ymgysylltiad tîm cyfan ag adnoddau, continwwm ac ymgyngoriadau DARPL.

Ychwanegodd Gwenllian Lansdown-Davies o Cwlwm: 

Bydd y pecyn cymorth ymarferol hwn yn ddefnyddiol ar gyfer pob lleoliad gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar wrth iddynt wreiddio gwrth-hiliaeth yn eu ffyrdd o weithio. Bydd hyn o fudd i blant a'r oedolion sy’n galluogi dysgu sy'n gweithio gyda nhw.