Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfu'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â gweinidogion iechyd gweinyddiaethau eraill y DU heddiw i roi cynlluniau ar waith ar gyfer y gwasanaethau iechyd a cymdeithasol yn dilyn Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd:

"Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod y materion niferus sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol a ddaw yn sgîl Brexit. Mae'n hen bryd cael y cyfarfod hwn, yr wyf wedi bod yn galw amdano ers yr Hydref.  Mae Llywodraeth y DU o'r diwedd wedi dod i drafod y materion hollbwysig hyn ar lefel weinidogol.  Os bydd y DU yn gadael yr UE mae gennym oll gyfrifoldeb i roi buddiannau pobl ym mhob un o'n gwledydd y gyntaf, cyn gwleidyddiaeth.

Edrychwyd dros y camau sy'n cael eu cymryd ar draws y DU i geisio sicrhau cyflenwad meddyginiaethau a chyfarpar meddygol, y gweithlu, cydnerthedd ac ymateb brys, a chytundebau gofal iechyd dwyochrog. Mae cynlluniau ar waith ar draws y pedair gwlad, yn ogystal â threfniadau ar y cyd ar lefel y DU.  Mae'n bwysig bod pob un o'r pedair gweinyddiaeth yn parhau i gyfarfod a thrafod y cynlluniau hyn yn rheolaidd o hyn ymlaen, beth bynnag fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.

Pe bai Llywodraeth y DU wedi gallu darparu sicrwydd mewn da bryd am ein dyfodol gydag Ewrop, byddai wedi bod yn bosib osgoi llawer o'r camau sy'n cael eu cymryd yn awr i baratoi am Brexit heb ddêl.  Mae'n bwysicach nag erioed fod Senedd y DU a Llywodraeth y DU yn rhoi Brexit heb ddêl o’r neilltu yn derfynol.  Gallai methiant i wneud hynny'r wythnos hon arwain at ganlyniadau iechyd a lles difrifol a parhaol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled y DU."