Mae Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, wedi gweld rhai o'r cynlluniau yn Sir y Fflint sydd o fudd i'r ardal a'i phobl.
Cafodd y Gweinidog gyfle i edrych ar brosiectau yn Shotton a Pharc Wepre, yn ogystal ag yn y Fflint lle dangoswyd llety iddi a oedd yn cael ei adnewyddu i gefnogi unigolion digartref a The Walks yng nghanol y dref ble mae 92 o gartrefi newydd wedi cael eu datblygu ar gyfer pobl leol.
Yn ystod ymweliad â'r prosiect Well-Fed yn Shotton, cafodd y Gweinidog ei thywys o amgylch y gegin fasnachol a chwrdd â staff yn paratoi prydau ffres i bobl gan gynnwys y rhai mewn angen.
Mae'r cynllun, sy'n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, y fenter gymdeithasol Can Cook a Thai ClwydAlyn, wedi buddsoddi mewn helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd yn y rhanbarth.
Dros y 18 mis diwethaf, mae Well-Fed wedi dosbarthu mwy na 150,000 o brydau i aelwydydd agored i niwed.
Dywedodd Robbie Davison, Rheolwr Gyfarwyddwr Can Cook / Well-Fed:
"Mae Well-Fed yn fusnes cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar fwydo pawb yn dda waeth beth fo'u lefelau incwm.
"Mae Well-Fed yn cynhyrchu prydau ffres da yn unig, yn fasnachol ar gyfer ysgolion a chartrefi gofal ac yn gymdeithasol, a hefyd yn bwydo ffoaduriaid Wcráin ac yn atal tlodi bwyd."
Ym Mharc Wepre, gwelodd y Gweinidog sesiwn ysgol goedwig ar waith a phlanodd goeden ar safle estyniad plannu coed yn ogystal â gweld rhywfaint o waith casglu hadau blodau gwyllt ar gyfer gwelliannau eraill i safleoedd trefol.
Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:
"Mae wedi bod yn wych gweld rhai o'r cynlluniau yn Sir y Fflint sy'n gwneud gwahaniaeth i'r ardal a'i phobl.
"Mae'r prosiect Well-Fed yn cefnogi unigolion a theuluoedd i sicrhau eu bod yn derbyn opsiynau bwyd iach ac yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd.
"Roeddwn yn falch hefyd o weld y gwaith y mae ein rhaglen Coedwig Genedlaethol wedi ei ariannu ym Mharc Wepre ac i blannu coeden ar y safle.
"Heb unrhyw amheuaeth bydd y gwaith o adnewyddu eiddo yn y Fflint yn hanfodol i helpu pobl ddigartref gael eu llety eu hunain."
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
"Roedd yn bleser cwrdd â'r Gweinidog yn Sir y Fflint a dangos iddi 3 phrosiect gwerthfawr iawn sy'n cyfrannu at sylfaen ein gweledigaeth ar gyfer yr ardal.
"Fe ddangosodd y Gweinidog gryn ddiddordeb yn y tri lleoliad ac yn y bobl sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein sir."