Ydych chi am wneud gwaith ar eich tŷ neu'ch fferm? O heddiw ymlaen, mae'r ffordd y mae ceisiadau cynllunio'n cael eu cyflwyno i gynghorau yng Nghymru'n newid.
Bydd y wefan 'Ceisiadau Cynllunio Cymru' newydd yn mynd yn fyw heddiw a dyma fydd y porthol ar gyfer cyflwyno ceisiadau cynllunio neu gydsyniadau cysylltiedig i awdurdodau cynllunio lleol. Bydd yn cymryd lle'r Porthol Cynllunio.
Mae'r wefan wedi'i dylunio er mwyn ei gwneud hi'n haws ac yn gynt i unrhyw un sydd am wneud cais cynllunio ac mae'r ffurflenni wedi'u symleiddio. Cafodd ei dylunio i ateb gofynion defnyddwyr system gynllunio Cymru.
I wneud cais cynllunio, ewch i'n tudalennau cynllunio.
Cewch wybodaeth am y mathau o ddatblygiad nad oes angen gofyn am ganiatâd cynllunio ar eu cyfer a rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau a ganiateir, y gwasanaeth cynllunio a rheoliadau adeiladu ar ein tudalennau caniatâd cynllunio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"O heddiw ymlaen, os ydych am gyflwyno cais cynllunio, bydd angen ichi fynd i'r wefan newydd, Ceisiadau Cynllunio Cymru.
"Wrth ddylunio'r wefan newydd, rydyn ni wedi gwneud yn siwr ein bod yn ateb gofynion defnyddwyr Cymru. Bydd y wefan newydd yn ei gwneud hi'n haws a symlach hefyd i bawb sydd am gyflwyno cais cynllunio."