Daeth yr ymgynghoriad i ben 3 Medi 2014.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Cangen y Strategaeth Wastraff wedi lansio Cais am Dystiolaeth mewn perthynas â'r amryfal fathau o wastraff sy'n cael eu creu a'u rheoli gan y sector amaethyddiaeth yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Eir ati yn y ddogfen i amlinellu nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amryfal fathau o wastraff sy'n cael eu creu a'u rheoli gan y sector amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae'n ymdrin hefyd â gwastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon ar dir amaethyddol. Mae'n nodi'r dystiolaeth a'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae'r ddogfen yn gofyn a oes unrhyw dystiolaeth arall ar gael ac a oes angen cymryd camau pellach a datblygu cynllun gweithredu yn benodol ar gyfer y sector. Mae'r cais am dystiolaeth wedi'i anelu at fusnesau amaethyddol cwmnïau rheoli gwastraff awdurdodau lleol rheoleiddwyr a chyrff cyflawni ynghyd ag eraill sydd â diddordeb mewn gwastraff amaethyddol ac mewn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon.