Neidio i'r prif gynnwy

Mae partneriaid yn parhau i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod teithwyr a nwyddau yn gallu teithio i Iwerddon ac oddi yno cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i borthladd Caergybi gael ei gau dros dro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Stena ac Irish Ferries wedi darparu gwasanaethau ychwanegol mewn porthladdoedd eraill, ac mae Irish Ferries ar fin dechrau cynnig gwasanaeth newydd o Abergwaun yn ddiweddarach heddiw. 

Mae'r cwmnïau fferi yn cysylltu â'u cwsmeriaid, ac mae teithwyr yn cael eu hannog hefyd i droi at wefannau'r cwmnïau fferi i ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf un.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

“Hoffwn i ddiolch i bawb am eu hymdrechion hyd yn hyn wrth iddyn nhw weithio i sicrhau bod pobl yn gallu teithio i Iwerddon, ac oddi yno. 

“Dw i, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a'r Prif Weinidog, yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Iwerddon ar y mater hwn. Gwnaed ymdrechion mawr i ddod â phawb ynghyd er mwyn dod o hyd i atebion a'u gweithredu'n gyflym ac yn effeithiol, ac roedd yr ymdrechion hynny'n cynnwys Llywodraeth y DU, Maer Metro Lerpwl, ac eraill.

“Dw i'n deall pa mor bwysig yw hi i bobl allu teithio adref yr adeg hon o'r flwyddyn, ac mae'r cwmnïau fferi'n darparu llwybrau teithio amgen. Dw i'n ddiolchgar iddyn nhw am wneud hynny. Byddwn i'n annog teithwyr i droi at wefannau'r fferis er mwyn dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y gallan nhw deithio.

“Mae partneriaid fel Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio hefyd i sicrhau bod traffig yn lllfo'n rhwydd i'r porthladdoedd amgen, oherwydd y byddan nhw'n gweld tipyn mwy o fynd a dod.

“Dw i'n gwybod y bydd y sefyllfa wedi achosi pryder ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, pan fydd teithio i weld anwyliaid mor bwysig. Dw i'n ddiolchgar i'n holl bartneriaid sydd wedi gwneud pob ymdrech i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon.”