Ystadegau, Dogfennu
Gwasanaethau rhoi'r gorau ysmygu y GIG: Medi i Ragfyr 2024
Data ar ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ar gyfer Medi i Ragfyr 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 87 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn ystod y chwarter (Medi i Ragfyr 2024)
- Cafodd 4,102 o ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 1.22% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 736 (17.94%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2024)
- Cafodd 12,900 o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru driniaeth gan wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Gwnaeth 3.85% o’r amcangyfrif o nifer yr ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru ymgais i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
- Cadarnhawyd drwy fonitro carbon monocsid bod 2,193 (17.00%) o’r ysmygwyr sy’n byw yng Nghymru a gafodd driniaeth yn dal i lwyddo i roi’r gorau iddi 4 wythnos ar ôl y dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099